Mae Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru (WIPS) yn cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â phartneriaid academaidd (Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru) gan gynnal prosiectau gwyddoniaeth perfformiad cymhwysol amlddisgyblaethol ac arloesol ar lefel byd sy’n gwella perfformiad athletwyr a busnesau Cymru. Dyma bartneriaeth dair ffordd rhwng Chwaraeon Cymru, gwyddonwyr chwaraeon academaidd blaenllaw Cymru a phartneriaid diwydiant perthnasol.
Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru

Crynodeb
Mae WIPS yn cynnal ymchwil effaith uchel yn unol â strategaethau Chwaraeon Cymru, gan annog a sicrhau effaith orau’r ymchwil, yr arloesi a’r dechnoleg ddiweddaraf i helpu i wella perfformiad athletwyr ein cenedl.
Un cryfder allweddol gan WIPS yw’r perthnasoedd sydd wedi’u creu gyda diwydiant ac academia ym maes gwyddoniaeth chwaraeon, meddygaeth, gwyddoniaeth a pheirianneg i ddatblygu, profi a chyflwyno arloesi sy’n sicrhau manteision perfformiad mewn chwaraeon elitaidd ac mewn meysydd ehangach fel iechyd a meddygaeth.
Caiff hyn ei gydlynu drwy’r bwrdd rheoli strategol a’r grŵp llywio ymchwil sy’n cynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon; yn benodol, gwyddoniaeth hyfforddi, maeth, cryfder a chyflwr, ffisioleg perfformiad, Gwyddoniaeth Data, Adnabod talent a throsglwyddo, Ffisiotherapi, Chwaraeon anabledd, Iechyd a lles athletwyr, Llywodraethu a didwylledd moeseg chwaraeon, chwaraeon ieuenctid, ffisioleg amgylcheddol, meddygaeth chwaraeon, biomecaneg, dadansoddi perfformiad a seicoleg, ac mewn cydweithrediad ag Athrofa Chwaraeon Cymru a Chyrff Rheoli Cenedlaethol.
Cefnogir yr ymchwil gan grantiau Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Mae cydweithredu ag Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru yn gyfle i ni wneud defnydd o gymuned academaidd gadarnach Cymru i greu atebion ymarferol i helpu ein hathletwyr i ragori ar lwyfan y byd,” Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Elitaidd Chwaraeon Cymru.
Esiamplau o gefnogaeth a ddarperir gan Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru
Mae gweithio ar y cyd â’r rhwydwaith ehangach o arbenigwyr wedi cael effaith bositif eisoes ar lwyddiant chwaraeon yng Nghymru.
- Cynlluniwyd Siaced Blizzard, a wisgwyd am y tro cyntaf gan athletwyr Cymru yng Ngemau Cymanwlad 2014 yn Glasgow, i leihau colli gwres o’r cyhyrau i wella parodrwydd ar gyfer cystadlu. Er bod ymarfer cynhesu’n rhan annatod o drefn athletwr, gall yr amser cyn i ddigwyddiad ddechrau arwain at golli llawer o wres, sy’n gallu lleihau pŵer y cyhyrau a chynyddu’r risg o anaf. Bu arbenigwyr gwyddoniaeth chwaraeon o Brifysgol Abertawe yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru a chwmni o Gymru Blizzard Protection Systems Ltd I ddatblygu’r siaced ac i fynd i’r afael â’r broblem hon.
- Gan weithio gyda chodwyr pwysau Cymru cyn Gemau Cymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, bu technegau rheoli straen unigol o gymorth i hybu iechyd a lles ymhlith y codwyr a’r hyfforddwyr. Defnyddiodd Gareth Evans – a enillodd aur cyntaf Cymru yn y Gemau – dechneg anadlu i wella ei adferiad yn ystod yr hyfforddiant cyn cystadlu ac i gynorthwyo gyda chysgu ar ôl cystadlu. Cododd o leiaf dri aelod o’r tîm eu gorau personol yn y Gemau

- Camodd WIPS i’r adwy i fynd i’r afael ag‘iselder arafu’ ymhlith nofwyr elitaidd Cymru yn 2016. Camodd WIPS i’r adwy i fynd i’r afael ag ‘iselder arafu’ ymhlith nofwyr elitaidd Cymru yn 2016. Daeth yn glir bod y nofwyr yn teimlo’n bryderus yn ystod y cyfnod arafu. Y cyfnod arafu yw pan mae athletwr yn hyfforddi llai ond eto’n cynnal dwysedd yr hyfforddi cyn cystadleuaeth. Roedd ofnau nad oedd y cyfnod arafu’n gweithio yn golygu nad oedd yr athletwyr yn gallu perfformio ar eu gorau. Lluniwyd canllawiau ymarferol i helpu nofwyr a hyfforddwyr i ddeall y ffyrdd gorau o ymateb i’r cyfnod arafu. Hefyd darparwyd strategaethau â’u ffocws ar emosiwn i weithio yn erbyn unrhyw deimladau negyddol.
- Gyda disgwyl i’r tymheredd fod yn fwy na 30°C yng Ngemau Cymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018, bu aelodau WIPS yn cynorthwyo gyda’r paratoadau ar gyfer rheoli’r gwres. Yn syniad wedi’i ddatblygu gan yr Athro Neil Walsh a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor (gan gynnwys Sam Oliver, cynghorydd Ffisioleg Amgylcheddol i WIPS), gwelwyd fod bath poeth ar ôl ymarfer yn ddull effeithiol o gynefino â’r gwres. Cryfder bath poeth yw ei fod yn fwy ymarferol na strategaethau cynefino â gwres confensiynol sy’n gofyn i athletwyr naill ai ymarfer mewn siambr amgylcheddol neu deithio i wlad boeth i ymarfer. Ar ôl arddangos a threialu strategaeth y bath poeth gyda rhedwyr elitaidd, mabwysiadodd Chwaraeon Cymru y strategaeth fel rhan o baratoadau’r athletwyr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, gan gynnwys y cerddwr rasys a enillodd fedal, Bethan Davies.
Dyfodol Athrofa Gwyddoniaeth Perfformiad Cymru
Nod WIPS yw datblygu gwyddoniaeth chwaraeon ymhellach yng Nghymru, hyfforddi gwyddonwyr chwaraeon y dyfodol, gwella’r defnydd o wyddoniaeth mewn chwaraeon yng Nghymru, a chynyddu’r cydweithredu rhwng chwaraeon, academia a busnes yng Nghymru.
I barhau i wella perfformiad Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a chynyddu nifer yr athletwyr o Gymru sy’n ennill medalau mewn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, rhaid cyfateb a rhagori ar allu ymchwil perfformiad cystadleuwyr mewn gwledydd eraill.
Sut i gymryd rhan
Ydych chi’n fusnes neu’n academydd fedr helpu ein hathletwyr i berfformio’n well fyth?
Os felly, cysylltwch:
Yr Athro Liam Kilduff
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer
Prifysgol Abertawe
+44 (01792) 513441
[javascript protected email address]
Rhagor o Wybodaeth
Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf
Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen
Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.
Sêr Cwpan Rygbi'r Byd Cymru a'u clybiau rygbi cymunedol
Dyma glybiau cymunedol aelodau carfan Cwpan Rygbi'r Byd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth y Loteri Genedlaethol.
Siwrneiau Pêl Rwyd gyda thair o chwaraewyr Plu Cymru
I chwaraewyr Plu Cymru, dyma uchafbwynt eu gyrfaoedd a phenllanw blynyddoedd o ymdrechu.