Ydi eich clwb chwaraeon chi’n cynnwys pobl fyddar neu drwm eu clyw? Ydych chi wedi ystyried sut gallwch chi wneud eich hyfforddiant yn fwy cyfeillgar i bobl fyddar? Dyma sut gallwch chi wneud eich sesiynau’n fwy hygyrch i sicrhau bod pobl â nam ar eu clyw yn gallu mwynhau’r manteision chwaraeon yn eich clwb.
Mae cyflwyno chwaraeon yn seiliedig ar gyfathrebu a sicrhau bod y cyfranogwyr yn gallu deall. Does dim un dull sy’n addas i bawb byth, ac mae hynny’n arbennig o wir am bobl â nam ar eu clyw.
Sefydlwyd Shotton Town United JFC yn 2015 gyda’r arwyddair – “Dylai pob plentyn chwarae”. Mae eu hyfforddwyr yn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol ac maen nhw wedi'u hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o fyddardod i sicrhau bod gan blant yng ngogledd Cymru sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw le i chwarae pêl droed.
Felly, pwy well i roi eu cyngor ar fod yn glwb chwaraeon cyfeillgar i bobl fyddar na nhw? Dyma awgrymiadau gwych Shotton Town United i sicrhau eich bod yn cynnwys cyfranogwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw yn eich clwb chwaraeon.
Dysgu sut maen nhw eisiau cyfathrebu.
Does dim dau berson yr un fath ac mae hynny'n wir am bawb sydd â nam ar eu clyw hefyd. Efallai y bydd gan gyfranogwr hoff ffordd o gyfathrebu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Gwnewch yn siŵr mai'r peth cyntaf rydych chi'n ei wneud yw siarad â'r person i ddeall ei anghenion. Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol!
Aros mewn un lle.
Arhoswch mewn un lle fel bod y cyfranogwyr yn gwybod ble i edrych a ble i ddod o hyd i hyfforddwyr unrhyw bryd. Os byddwch yn symud o gwmpas, ni fydd y rhai sydd ag anawsterau clyw yn gallu clywed eich llais chi i ddod o hyd i'ch lleoliad. Rhowch yr hyder iddyn nhw wybod yn union ble rydych chi i geisio cyfarwyddyd.