Skip to main content

Chwaraeon Cymru yn ymuno â Mind Cymru i gefnogi iechyd meddwl yn y Flwyddyn Newydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Chwaraeon Cymru yn ymuno â Mind Cymru i gefnogi iechyd meddwl yn y Flwyddyn Newydd

Mae'r Flwyddyn Newydd yn dod, gan gynnig gobaith ac addewid ond, i rai, gall yr amser yma o'r flwyddyn fod yn anodd. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl, mae Chwaraeon Cymru a Mind Cymru wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at y manteision iechyd meddwl sylweddol o symud mwy a bod yn actif.

Bydd y ddau sefydliad cenedlaethol yn dangos astudiaethau achos, ymchwil ac enghreifftiau real o bŵer ymarfer corff i leihau straen, unigrwydd, gorbryder ac iselder.

Ymhlith y rhai sy’n rhannu eu stori mae Bob o Bowys a oedd yn teimlo ar goll ar ôl i’w wraig, Mary, farw ym mis Hydref 2020: “Doeddwn i ddim wedi deffro ar fy mhen fy hun ers 51 o flynyddoedd,” meddai Bob. “Mae wedi bod yn anodd iawn ymdopi â byw heb rywun.” Cysylltodd â sefydliad Mind yn lleol ac mae wedi bod yn mynychu Teithiau Cerdded a Sgyrsiau bob wythnos; ac mae bod yn yr awyr agored, gyda rhywun i siarad â nhw, yn helpu.

Yn y cyfamser, yng Nghaerdydd, mae Shekira yn siarad yn agored am fyw gyda gorbryder a sut gall ymarfer corff helpu i reoli ei theimladau. Ers hynny mae hi wedi sefydlu dosbarth dawns, gan annog eraill i wella eu hiechyd meddwl drwy ddawnsio.

Ac ym Mhontypridd, mae Alex wedi ymdopi â phroblemau iechyd meddwl amrywiol fel iselder ysbryd, gorbryder ac Anhwylder Gorfodol Obsesiynol (OCD). Yn awyddus i ddysgu beth allai ei helpu, daeth o hyd i bŵer ymarfer corff ac mae bellach yn aelod brwd o Glwb Beicio Merthyr Tudful, gan gymryd rhan mewn teithiau beicio grŵp ar y penwythnos yn ogystal â digwyddiadau treialon amser.

Bob tra allan ar daith gerdded.

 

Dywedodd Rhian Evans, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Cyfathrebu a Digideiddio Strategol yn Chwaraeon Cymru:

“Rydyn ni wedi cael ein cyffwrdd yn fawr gan y straeon ac yn falch iawn o fod yn bartner gyda Mind Cymru ar y prosiect hwn. Rydyn ni eisiau cyfleu nad oes raid i chi gofrestru'ch hun ar gyfer marathon, does dim rhaid i chi ystyried eich hun yn berson hoff o chwaraeon a does dim angen i chi fod yn berchen ar un darn o lycra hyd yn oed!

“Rydyn ni’n gwybod bod hwn yn amser anodd o’r flwyddyn i lawer o bobl – dydi pawb ddim yn teimlo’n obeithiol a chadarnhaol ar ddechrau blwyddyn newydd - ond fe allwn ni ddefnyddio ymarfer corff i leihau straen, cwrdd â phobl newydd, magu hyder ac i dynnu ein sylw oddi wrth ein pryderon. Yn aml, wrth i’n hiechyd corfforol wella, gall ein hiechyd meddwl wella hefyd a gall ein helpu ni drwy fisoedd anodd y gaeaf.”

Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr, Mind Cymru:

“Pan rydych chi'n cael anhawster gyda'ch iechyd meddwl, mae'n bwysig iawn cofio bod sefydliadau a all eich cefnogi chi. Gall symud mwy gefnogi ein hiechyd meddwl, gan leihau'r risg o ddatblygu iselder hyd at 30%. Mae'n bwysig dod o hyd i rywbeth rydych chi'n ei fwynhau, sy'n gweithio i chi, does dim rhaid iddo fod yn hir nac yn ddwys. Rydyn ni’n gyffrous iawn am fod yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i ddangos i bobl ledled y wlad pa mor bwerus y gall fod i roi amser i ni ein hunain feithrin perthynas iach â gweithgarwch corfforol.”

Yn 2021, cynhaliodd Chwaraeon Cymru arolwg a darganfod bod 65% o oedolion yn ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl yn y cam hwnnw o'r pandemig parhaus. Datgelwyd hefyd bod 62% o oedolion yn teimlo ei bod yn bwysicach bod yn actif yn gorfforol yn ystod y pandemig nag ar adegau eraill.

Bydd y straeon byrion yn cael eu cyhoeddi ar sianeli cymdeithasol Chwaraeon Cymru a Mind Cymru yn y flwyddyn newydd.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, cysylltwch â Mind Cymru Mind Cymru | Mind, yr elusen iechyd meddwl - help i broblemau iechyd meddwl am fwy o wybodaeth a chefnogaeth.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy