Skip to main content

Cyllid ar gael i helpu gydag adfywiad chwaraeon ar lawr gwlad

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyllid ar gael i helpu gydag adfywiad chwaraeon ar lawr gwlad

Wrth i chwaraeon ar lawr gwlad barhau â'u hadfywiad yng Nghymru yn dilyn y pandemig, mae clybiau chwaraeon yn cael eu hatgoffa y gallant gael cyllid i'w helpu i gael mwy o bobl i fod yn actif.

Ar hyn o bryd mae Chwaraeon Cymru yn cynnig dau fath o gymorth cyllido ar gyfer clybiau a sefydliadau cymunedol sy'n darparu gweithgareddau corfforol. 

Gall clybiau sydd eisiau uwchsgilio gwirfoddolwyr, prynu offer newydd, neu gyllido syniadau arloesol sydd ganddynt ar gyfer defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o gyfranogwyr wneud ceisiadau i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

Hefyd gall clybiau wneud cais i Gronfa Cymru Actif gyda chynigion i wella eu cyfleusterau ar y cae, fel arwynebau a llifoleuadau. Yn y cyfamser, mae ‘Cronfa Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru ar gael i glybiau sydd eisiau gwneud gwelliannau ‘oddi ar y cae’ fel uwchraddio ystafelloedd newid ac adeiladau clwb. 

Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael pwrpas newydd o'r Loteri Genedlaethol, mae grantiau Cronfa Cymru Actif yn amrywio o £300 hyd at uchafswm o £50,000.

Ymhlith y clybiau sydd wedi elwa’n ddiweddar o Gronfa Cymru Actif mae Clwb Pêl Droed Undy Athletig yn Sir Fynwy a ddefnyddiodd grant o £8,409 i greu cae maint llawn ychwanegol, gan roi lle i ddau dîm merched newydd cystadleuol chwarae eu gemau. 

Yng Nghaerdydd, llwyddodd Clwb Badminton Iau Llanisien gyda’i gais am £350 yr oedd ei angen er mwyn hyfforddi hyfforddwr arall i helpu i ymdopi â’r cynnydd o 50% mewn chwaraewyr newydd yn ymuno â'r clwb. 

Roedd gwirfoddolwyr yng Nghlwb Criced Malpas wrth eu bodd gyda'u peiriant torri gwair newydd a brynwyd diolch i Gronfa Cymru Actif, yn ogystal â sbyngau sychu newydd i alluogi i fwy o gemau fynd yn eu blaen. 

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am gyllid hefyd. Llwyddodd Sefydliad Lles y Glöwyr yn Llai yn Wrecsam i roi arwyneb newydd ar eu MGADd (cwrt gemau aml-ddefnydd) cymunedol a hefyd gosod rhwyd uwchben diolch i grant o £26,612.

Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Chwaraeon Cymru: “Ers sefydlu Cronfa Cymru Actif i ddechrau yr haf diwethaf i helpu clybiau i oroesi ac addasu i ganllawiau Covid, rydyn ni wedi dyfarnu mwy na £5.1m i 1,308 o glybiau. 

“Wrth i weithgareddau llawr gwlad barhau i helpu cymunedau i ddod yn ôl i chwaraeon, rydyn ni eisiau atgoffa clybiau a sefydliadau cymunedol bod Cronfa Cymru Actif ar gael i'ch cefnogi chi. 

“Fis diwethaf, fe wnaethom hefyd lansio ail gronfa - Lle i Chwaraeon - mewn partneriaeth â Crowdfunder. Rydyn ni'n gyffrous iawn am y dull cyllido newydd yma sydd â'r nod nid yn unig o helpu clybiau i uwchraddio eu cyfleusterau ond hefyd i wella eu cysylltiadau cymunedol a'u sgiliau codi arian. Rydw i'n annog clybiau i fynd i'n gwefan ni i gael gwybod mwy.”

Newyddion Diweddaraf - Grantiau a Chyllid

Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant…

Darllen Mwy

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy