Skip to main content
CHWARAEON CYMRU AR GYFER...
Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad Addysg ac Athrawon Partneriaid Chwaraeon Perfformiad Unigolion a Theuluoedd
GWYBODAETH AM...
Chwaraeon mewn Ysgolion Chwaraeon yn y Gymuned Canolfannau Cenedlaethol Ymchwil a Gwybodaeth Grantiau a Chyllid Polisïau a Llywodraethu GRANT CYNNYDD Cefnogaeth i Athletwr Y Coronafeirws: Gwybodaeth hanfodol
AM CHWARAEON CYMRU
Beth yw Chwaraeon Cymru Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru Strategaeth Chwaraeon Cymru Ein Cyfleusterau Athrofa Chwaraeon Cymru Lleoliad a Chysylltiadau Gyrfaoedd Cymryd Rhan mewn Chwaraeon ac Ymarfer yng Nghymru – y Cyfarwyddyd Ymgyrch #CymruActif Cronfa Cymru Actif CRONFA GWEITHWYR LLAWRYDD CHWARAEON Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
Methu gweld beth rydych chi’n chwilio amdano? Ceisiwch chwilio am

CYLLID YN RHOI HWB I YMGYRCH CYNHWYSIANT CLWB BOWLS

13/01/2021
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. CYLLID YN RHOI HWB I YMGYRCH CYNHWYSIANT CLWB BOWLS

Gydag aelodau rhwng naw a 95 oed bywiog iawn, mae Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed yn Llandrindod yn ymfalchïo mewn dull cynhwysol o weithredu sy'n croesawu unrhyw un sy'n awyddus i chwarae yn ei stadiwm safonol rhyngwladol chwe rinc. 

Felly, pan glywyd am Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, dyma weld cyfle gwych i annog mwy o chwaraewyr â nam ar eu symudedd i gymryd rhan yn y gamp. 

 

Paul Vaughan, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, sy’n esbonio: "Mae gennym ni nifer o chwaraewyr sy'n defnyddio cadair olwyn felly fe aethon ni ati i wneud cais am gymorth i drosi cadair olwyn faniwal i fod yn un modur. Bydd yn helpu’r aelodau i chwarae'n annibynnol, heb fod angen gwirfoddolwr i'w gwthio i fyny'r rinc. Wrth gwrs, mae hyn hefyd yn gwneud bywyd yn haws o ystyried sefyllfa barhaus y coronafeirws a'r cadw pellter cymdeithasol sydd ei angen.

"Bydd cael ail gadair olwyn fodur yn ein helpu ni i wneud ein rinc yn fwy croesawus fyth i fowlwyr anabl. Mae gennym ni hyfforddwyr ardderchog ar lefel clwb, canolradd ac uwch ac mae dau o'n bowlwyr cadair olwyn ni wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru mewn twrnameintiau rhyngwladol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at feithrin mwy o dalent a hefyd gwahodd chwaraewyr i fwynhau ochr gymdeithasol wych bowls." 

 

Mae ymchwil yn awgrymu bod lefelau gweithgarwch corfforol oedolion dros 55 oed yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf yng ngwanwyn 2020 a, gyda rhwystr ychwanegol tywydd y gaeaf, bydd llawer o bobl hŷn yn gweld y cyfyngiadau presennol yn eithriadol anodd. 

Ond mae bod yn actif yn hanfodol bwysig i iechyd meddwl a chorfforol unigolyn, felly mae Chwaraeon Cymru yn annog clybiau ledled y wlad i ystyried sut gellid defnyddio Cronfa Cymru Actif i gefnogi syniadau ar gyfer gwella cyfleoedd i bobl hŷn ddychwelyd yn hyderus at chwaraeon unwaith bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio. 

 

Er mwyn helpu i roi ei chynlluniau ar waith, gwnaeth Cymdeithas Bowls Dan Do Sir Faesyfed gais llwyddiannus am grant o £3,627 drwy elfen 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif. Mae’n un o fwy nag 800 o glybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru sydd wedi elwa o gyfran o fwy nag £1.8m drwy Gronfa Cymru Actif ers dechrau'r pandemig. 

Mae mwy ar gael o hyd i Chwaraeon Cymru ei ddosbarthu diolch i arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, ac mae Cronfa Cymru Actif bellach wedi'i symleiddio i'w gwneud yn haws i glybiau wneud cais am y cyllid sydd arnynt ei angen. 



Yn ogystal â chefnogi clybiau sydd â syniadau i 'ddatblygu' eu darpariaeth, mae grantiau ar gael o hyd i ddiogelu clybiau sy'n wynebu colledion refeniw difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, yn ogystal â helpu clybiau i baratoi i sicrhau bod eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid unwaith bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

 

Cronfa Cymru Actif

Cefnogaeth i Ddiogelu a Pharatoi chwaraeon cymunedol.

Darllen Mwy
Sport Wales
Awarding funds from  the National Lottery
Sponsored by Welsh Government
Polisi Preifatrwydd Polisi Cwcis Telerau Defnyddio'r Wefan Rhyddid Gwybodaeth Hyfforddi drwy bandemig Datganiad Hygyrchedd
© 2021 Chwaraeon Cymru. Cedwir pob hawl Crëwyd gan Grandad