Skip to main content

Dathlu pencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn y Senedd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dathlu pencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn y Senedd

Bu dathliad yn y Senedd heno (13 Medi) er mwyn anrhydeddu llwyddiant athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru.

Bu’r pencampwyr Olympaidd Lauren Williams a Calum Jarvis, aelodau o dîm Hoci Team GB Sarah Jones a Leah Wilkinson, enillydd medal Aur Paralympaidd Aled Sion Davies ac enillydd medal Efydd Olivia Breem ynghyd â bron i ddwsin o bencampwyr, athletwyr a hyfforddwyr eraill yn dathlu mewn seremoni yn y Senedd dan arweiniad y cyflwynydd chwaraeon Jason Mohammad.

 

Cafodd y digwyddiad ei ffrydio yn fyw ar wefan Senedd.tv ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Senedd, ac mae modd gwylio’r digwyddiad eto ar alw.

Estynnodd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS eu llongyfarchiadau i'r athletwyr a mynegi eu balchder yn ymdrechion y Cymry yn Tokyo.

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd; “Llongyfarchiadau enfawr i’r athletwyr o Gymru rydyn ni wedi bod mor falch o’u gweld yn cystadlu yn Tokyo. Mae blynyddoedd o hyfforddiant, ymroddiad a gwaith caled wedi arwain at gasgliad gwych o fedalau o flaen miliynau o wylwyr byd-eang ac rydw i’n hynod o falch i groesawu rhai ohonynt i'r Senedd i ddathlu eu llwyddiant.

“Roedd gweld yr athletwyr hyn - pobl o gymunedau ledled Cymru - yn rhoi eu eithaf ac yn dod â chyffro ac undod inni ar ôl 18 mis mor anodd, yn olygfa wych. Maent yn sicr wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymuno a’r athletwyr Olympaidd a Paralympaidd heddiw fel rhan o hanes chwaraeon enwog Cymru.”

 

Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru; “Rwy’n falch iawn bod cymaint o athletwyr gwych o Gymru wedi bod yn rhan o dîm ParalympicsGB a Thîm GB, gan gystadlu ar y lefelau uchaf un o’u chwaraeon yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni.

“Mae'r rhain yn llwyddiannau syfrdanol i genedl o'n maint ac yn dangos sut rydyn ni'n fel gwlad fach yn gallu cystadlu ymhlith y goreuon, dro ar ôl tro, o ran llwyddiant chwaraeon ar lwyfan ryngwladol.

“Mae gan lawer o’n hathletwyr lygad eisoes ar Gemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf yn Birmingham. Byddwn yn gwylio gyda diddordeb mawr, ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y cystadlaethau hynny a chystadlaethau'r dyfodol. ”

 

Dywedodd Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru; “Mae wedi bod yn gyfnod hynod o heriol, ond mae ffocws, penderfyniad a gwytnwch pob athletwr Paralympaidd wedi bod yn rhyfeddol. Rydym yn hynod falch o lwyddiannau pob un o'r 22 o athletwyr Cymreig / athletwyr o Gymru sy'n byw yng Nghymru a gynrychiolodd ParalympicsGB yn Tokyo. Mae ffurfio 10% o'r tîm, a dod â 14 medal adref (11% o gyfanswm y cyfrif) yn dangos yr effaith mae athletwyr Cymru yn ei chael ar lwyfan y byd.

“Roedd hefyd yn wych gwybod, er nad oedd teuluoedd ac anwyliaid allan yn Tokyo gyda'r athletwyr fel y byddent fel arfer, bod darlledu Channel 4 wedi bod yn eithriadol; gwnaethant para-chwaraeon yn hygyrch. Safon aruthrol yr athletwyr sydd gennym yw'r hyn sy'n ysbrydoli ac yn hysbysu pobl am yr hyn sydd ar gael, a beth sy'n bosibl.”

Ychwanegodd Brian Davies, Cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru: “Roeddem yn gwybod y byddai’r Gemau yma yn unigryw, ac o’r dechrau fel welsom eiliadau chwaraeon gwirioneddol eiconig. O'r ymddangosiadau Paralympaidd neu Olympaidd cyntaf, i berfformiadau oedd yn creu hanes; dylai pob un o'r athletwyr hyn, a'r timau y tu ôl iddynt fod yn hynod falch o’u llwyddiannau. Yn dilyn blwyddyn neu ddwy anodd, gobeithiwn y bydd eu perfformiadau wedi helpu Cymru i ailgynnau cariad at chwaraeon neu ysbrydoli pobl i roi cynnig ar ffordd newydd o fod yn egnïol.”

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Sêr Cwpan Rygbi'r Byd Cymru a'u clybiau rygbi cymunedol

Dyma glybiau cymunedol aelodau carfan Cwpan Rygbi'r Byd Cymru sydd wedi cael cefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Darllen Mwy