Skip to main content

EISIAU RHOI CYNNIG AR GAMP GAEAF?

Mae troeon rhewllyd, neidiau trawiadol a’n pencampwyr hollol cŵl ni yng Ngemau’r Gaeaf 2022 yn Beijing yn sicr yn ein hudo ni ar y llethrau ac i rinciau.

Does dim amheuaeth y bydd chwaraeon fel sgïo, eirafyrddio, hoci iâ, cyrlio a sglefrio ffigwr yn gweld cynnydd enfawr oherwydd Beijing ymhlith y rhai sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Ond pa mor hygyrch yw chwaraeon y gaeaf yng Nghymru? Fe aethon ni i ddarganfod….

 

SGÏO AC EIRAFYRDDIO

Braidd yn uchel-ael a drud ydyn nhw de?             

“Na, dim o gwbl, fe allwch chi gymryd rhan am brisiau rhesymol iawn,” meddai Robin Kellen o Snowsport Cymru Wales. 

Yng Nghymru, mae chwe llethr artiffisial lle gallwch chi archebu gwersi fforddiadwy, rhoi cynnig am hwyl neu hyd yn oed symud ymlaen i’r cylch cystadlu. Fe allwch chi sgïo hamdden am tua £10 ac mae llogi offer yn gynwysedig.

Mae’r cyfleusterau yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd, Pont-y-pŵl yng Ngwent, Parc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin, Llangrannog ym Mae Ceredigion, Llandudno yng Ngwynedd a Dan-Yr-Ogof ym Mannau Brycheiniog.

Drwy gydol mis Mawrth 2022, mae Snowsport Cymru yn cynnal sesiynau blasu am bris is mewn canolfannau ledled Cymru, a bydd rhai ohonynt am hanner pris. Cysylltwch â'ch canolfan leol i gael gwybod mwy.

Ond ydi hi’n gamp i ferched? 

Ydi, mae hi! Mae mwy o ferched nag erioed yn cymryd rhan. Dywedodd Robin wrthym ni: “Yn ein Cystadleuaeth Genedlaethol i Ysgolion yn 2020, roedd gennym ni fwy o ferched na bechgyn yn cymryd rhan.”

Dechreuodd Katie Ormerod o Dîm Prydain Fawr - a hogodd ei sgiliau ar lethrau sgïo sych y DU - ar fwrdd eira i fechgyn am nad oedd neb yn eu gwneud ar gyfer merched. Ond mae amseroedd yn newid!

Ac mae sêr Prydain Fawr – gan gynnwys Menna Fitzpatrick o Gymru – yn fodelau rôl gwych, gan annog mwy o ferched i gamu ar y llethrau.

I ddod o hyd i'ch clwb agosaf, ewch i Snowsport Cymru Wales.

Tair dynes yng Nghanolfan Sgïo Llandudno yn gwenu ar y camera yn eu gêr gaeaf.

 

Rydw i’n anabl. Fedra i gymryd rhan mewn sgïo ac eirafyrddio?

Yn bendant – mae digon o gyfleoedd!Mae pob canolfan yng Nghymru yn darparu cyfleoedd ar gyfer sgïo addasol ac yn darparu ar gyfer pobl ag ystod eang o anableddau.

Hefyd mae nifer o glybiau sgïo addasol. Mae Para Snow Sports Wales yn Llandudno yn darparu cyfleoedd i bobl â nam ar eu golwg, y rhai sydd wedi colli aelodau o’u corff, defnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â nam deallusol. Ym Mhen-bre, mae Ski4all Wales yn cynnal sesiynau sgïo addasol i oedolion ac mae Ice Cool Kids yn cynnig cyfle i blant a theuluoedd o bob gallu fentro lawr y llethrau.

I gael gwybod mwy, ewch i Snowsport Cymru Wales

 

Ond rydw i eisiau rhoi cynnig ar sgïo dull rhydd. Oes posib gwneud hynny yng Nghymru? 

Wyt, ti'n gallu! Eisiau fflipio, troelli a neidio? Mae digwyddiadau sgïo dull rhydd fel croes sgïo, hanner pibell a steil llethrau i gyd bellach yn rhan o raglen Gemau Olympaidd y Gaeaf – ac fe allwch chi roi cynnig arnyn nhw yma yng Nghymru.

Mae gan bob canolfan gyfleusterau ar gael i ddechrau sgïo dull rhydd. Ond i symud ymlaen, ewch i barc eira Llangrannog sydd â neidiau, rheiliau a rampiau. Gydag arwyneb meddalach, rwber, dyma'r lle i fireinio'ch 360au.

Ar gyfer cyfleusterau sgïo, ewch i Snowsport Cymru Wales.

SGLEFRIO IÂ

Wedi cael eich ysbrydoli gan ein sglefrwyr llwyddiannus? Wel ewch i rinciau iâ Cymru. Mae un ar Lannau Dyfrdwy ac un arall yn Arena Iâ Cymru yng Nghaerdydd. Mae'r ddwy yn cynnig sesiynau sglefrio cyhoeddus a gwersi sglefrio iâ i unrhyw un, gan gynnwys plant dan bump oed.

Mae clybiau sglefrio iâ ar gael yn y ddwy rinc os ydych chi eisiau mynd â'ch troelli i'r lefel nesaf.

Cofiwch, wrth i mi ysgrifennu hwn, mae Rinc Sglefrio Glannau Dyfrdwy yn parhau i fod ar gau gan ei bod wedi bod yn gwasanaethu fel canolfan frechu. Gwiriwch cyn teithio yno.

Girl skiing at LLandudno ski centre

 

HOCI IÂ

Hoffi campau cyflym a gwyllt? Efallai mai hoci iâ yw’r gamp i chi. Mae chwe chlwb hoci iâ yng Nghymru: Devils Caerdydd,Devils Iau CaerdyddDreigiau Glannau DyfrdwyDreigiau Iau Glannau DyfrdwyComets CaerdyddHuskies Caerdydd.

Mae cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae ar bob lefel oedran. Ddim yn barod i ymuno â thîm? Mae'n iawn. Archebwch le ar raglen Dysgu Chwarae i ddechrau arni. Mae cit yn cael ei ddarparu.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae timau oedolion ac iau Glannau Dyfrdwy yn gobeithio dychwelyd i’r iâ cyn gynted ag y bydd y rinc sglefrio ar gael, heb fod ei hangen mwyach fel canolfan frechu.

Dal braidd yn sigledig?

Mae unig dîm hoci iâ merched Cymru, Comets Caerdydd, yn awgrymu y dylech chi allu dechrau, stopio a sglefrio heb gymorth. Ystyriwch ychydig o wersi sglefrio os nad ydych chi'n teimlo'n gwbl hyderus.

Oes gennych chi anabledd?

Os oes gennych chi anabledd ac eisiau rhoi cynnig arni, Huskies Caerdydd yw'r clwb i chi. Mae'r clwb Hoci Iâ Para yn agor ei ddrysau i ddechreuwyr, ieuenctid a phobl hŷn yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn anabl. Bydd y clwb yn darparu'r sled a'r cit angenrheidiol ar gyfer y sesiwn neu ddau cyntaf. Hefyd mae 

Dreigiau Iau Glannau Dyfrdwy

 yn darparu cyfleoedd i blant ag anghenion addysgol arbennig.            

Gêr sgïo wedi'i addasu.
Gêr sgïo wedi'i addasu.

CYRLIO 

Os ydych chi wedi bod yn gwylio'r cyrlio, mae'n debyg eich bod chi wedi gwirioni, do? I'r rhai sydd ddim yn gwybod, mae cyrlio yn gamp i dimau. Mae dau dîm yn cymryd eu tro i lithro cerrig gwenithfaen tuag at darged a elwir yn Dŷ.

 

Cartref cyrlio yng Nghymru yw Rinc Sglefrio Glannau Dyfrdwy, sydd wedi bod ar gau yn ystod pandemig Covid-19 i wneud lle ar gyfer canolfan frechu. Ond cadwch lygad ar wefan Cyrlio Cymru neu ei dudalen Facebook i gael gwybod pryd mae gwersi Rhoi Cynnig ar Gyrlio yn cael eu cynnal eto. 

GWIRFODDOLI

Dim ond oherwydd bod pobl yn torchi eu llewys ac yn rhoi o’u hamser rhydd i gyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau y gall clybiau ledled Cymru ddarparu Gweithgareddau.

Felly os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu mwy o bobl ledled Cymru i fwynhau chwaraeon, cysylltwch â chlwb neu gorff rheoli.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy