Mae hwb adnoddau ar-lein newydd wedi cael ei greu i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Mae Chwaraeon Cymru, fel rhan o’r Sport Environment and Climate Coalition (SECC),wedi helpu i ddatblygu ‘siop un stop’ o adnoddau allweddol i gefnogi sector chwaraeon y DU gyda’i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae Hwb Adnoddau SECC, sydd ar gael yn y Gymraeg hefyd, yn cynnwys fideos, erthyglau a chanllawiau i gefnogi clybiau a sefydliadau ledled Cymru a’r DU, ble bynnag maen nhw ar eu siwrnai gynaliadwyedd.
Gall y rhai yn y byd chwaraeon sydd eisiau cymryd camau cadarnhaol ddefnyddio'r adnodd ar-lein yma i ymgysylltu â materion cynaliadwyedd a chreu newid ystyrlon. Gallwch ddysgu sut i ddechrau sgwrs am yr hinsawdd yn eich clwb, mesur ôl troed carbon eich sefydliad, a deall graddfa’r her i chwaraeon a’r rôl y gallwch ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r materion hyn.