Er gwaethaf ei hanes balch ers 58 mlynedd, roedd Clwb Bocsio Amatur Dyffryn ym Mae Colwyn mewn sefyllfa ddifrifol ac roedd difäwr angen gwaith adnewyddu arno. Roedd hynny cyn iddo gychwyn ar ei daith cyllido torfol gyda Chwaraeon Cymru.
Roedd y bagiau dyrnu wedi malu, y to yn gollwng, a’r gwaith trydanol wedi'i ddifrodi, oedd yn gadael y clwb mewn sefyllfa lle’r oedd yn ei chael hi'n anodd annog aelodau newydd i ddod drwy'r drws. Ond fe wrthododd roi’r ffidil yn y to ac mae wedi llwyddo i godi dros £20,000 i ailwampio ei gyfleusterau diolch i'w ymdrechion cyllido torfol ei hun a Chronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru.
Beth yw cyllido torfol a 'Lle i Chwaraeon?
Mewn partneriaeth â Crowdfunder, ‘Lle i Chwaraeon' yw cronfa Chwaraeon Cymru, sy'n helpu clybiau cymunedol i godi arian er mwyn cael cyfleusterau 'oddi ar y cae'. Mae clybiau neu sefydliadau'n cysylltu â'r gymuned leol i godi arian drwy ddull cyllido torfol. Pan gyrhaeddir targed, mae Chwaraeon Cymru yn addo canran o'r cyfanswm mewn cyllid cyfatebol.
Pan fydd pobl yn addo arian i gefnogi eich achos, gallant gael gwobr am eu rhodd. Trwy Crowdfunder, gallwch gynnig cymhellion fel bod rhoddwyr yn cael rhywbeth bach yn gyfnewid am eu cefnogaeth.
Beth oedd Chwaraeon Cymru yn ei hoffi am brosiect Dyffryn ABC?
Nododd Dyffryn ABC yn glir yn ei gais ei fod am i'w glwb ddarparu amgylchedd cynhwysol a fforddiadwy sy'n adlewyrchu cymuned amrywiol Bae Colwyn.
Byddai'r arian yn helpu Dyffryn ABC i barhau i ddarparu lleoliad o'r ansawdd uchaf ar gyfer ei aelodau presennol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn blant a phobl ifanc yn eu harddegau. Ond amlinellodd hefyd ei uchelgeisiau i annog mwy o fenywod a merched i focsio.
Mae pobl Bae Colwyn wedi elwa o focsio yn Nyffryn ABC ers bron i 60 mlynedd. Er mwyn i fwy fyth o aelodau'r gymuned leol elwa o'r clwb, roedd adnewyddu'r gampfa yn hanfodol.