Lle i Chwaraeon a Chyllido Torfol – beth mae’n ei olygu? Sut gall helpu fy nghlwb chwaraeon i yng Nghymru? Sut mae dechrau arni?
Peidiwch â phoeni! Rydych chi wedi dod i'r lle iawn os ydych chi eisiau dod o hyd i atebion. Ac i gael yr wybodaeth i gyd gan rywun sydd wedi bod drwy'r broses codi arian, fe fuom ni’n sgwrsio â Chadeirydd Clwb Criced Casnewydd, Mike Knight.
Yn 2022, trodd y clwb at Crowdfunder gan godi bron i £16,000 a derbyn £6,000 mewn cyllid cyfatebol o gronfa Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru. Roedd mor llwyddiannus fel bod Clwb Criced Casnewydd wedi dod y clwb cyntaf yng Nghymru i gychwyn ar ei ail ymgyrch cyllido torfol.
Beth yw Lle i Chwaraeon?
Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Crowdfunder i gefnogi clybiau a gweithgareddau cymunedol i godi arian ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau ‘oddi ar y cae’. Os bydd clwb yn cyrraedd ei darged Cyllido Torfol, mae hefyd yn derbyn cyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru. Oherwydd eich bod yn cymryd rhan mewn Cyllido Torfol, mae pobl yn addo arian i gefnogi eich achos ac, am eu rhodd, fe allant dderbyn gwobr.
Gall y wobr fod yn unrhyw beth o driniaeth am bris is mewn sba gerllaw neu bryd o fwyd am ddim yn y dafarn leol. Holwch eich cymuned fusnes leol i weld beth allant ei gynnig i'ch cefnogi chi. Drwy bartneriaeth Chwaraeon Cymru gyda Crowdfunder, gall eich clwb wella ei gyfleusterau ac mae pawb sy’n addo arian yn derbyn gwobr – mae pawb ar eu hennill!
Mike, dywedwch wrthym ni am eich ymgyrch Cyllido Torfol gyntaf.
Yn 2022, fe wnaethom ni godi digon o arian i newid rholiwr 23 oed ein caeau ni.
Mae gennym ni 13 o wahanol dimau – llawer ohonyn nhw i blant – sy’n golygu bod llawer o alw am y wicedi glaswellt. Roedd y rholiwr newydd yn hanfodol ac roedden ni wrth ein bodd yn cyrraedd ein targed Cyllido Torfol mewn dim ond 49 diwrnod.
Beth yw manteision Lle i Chwaraeon?
Un o’r manteision mawr yw y bydd Chwaraeon Cymru yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer gwelliannau ‘oddi ar y cae’ fel ystafelloedd newid, clybiau, cyfleusterau cegin, raciau beiciau, mynediad i bobl anabl, paneli solar, generaduron, boeleri a ffensys newydd.
Bydd Chwaraeon Cymru yn darparu rhwng 30% a 50% mewn cyllid cyfatebol, hyd at £15,000.
Fel Clwb Chwaraeon Amatur Cymunedol (CASC) cofrestredig, roedd Clwb Criced Casnewydd hefyd yn gallu hawlio Rhodd Cymorth a oedd yn £1800 pellach tuag at ein targed.
Sut mae Lle i Chwaraeon a Crowdfunder wedi helpu eich clwb chi i fod yn fwy cynhwysol?
Fel clwb, rydyn ni’n falch iawn o’n gwaith cynhwysol. Mae gennym ni adran merched a genethod gref, rydyn ni’n cynnal dyddiau blasu criced anabledd ac rydyn ni’n gweithio gyda nifer o glybiau criced sy’n gwasanaethu cymunedau amrywiol fel Teigrod Casnewydd, Maendy, Asiaid Casnewydd, Tyrants Casnewydd a Zalmi Casnewydd.
Mewn gwirionedd, mae 43% o aelodaeth hŷn y clwb a 21% o’r aelodaeth iau yn dod o gymunedau DLlE yn yr ardal.
Bydd ein codi arian yn ein helpu ni i fod yn fwy cynhwysol fyth oherwydd bydd y peiriant torri gwair newydd yn golygu treulio llai o amser yn paratoi’r tir sy’n golygu y gallwn ni gael hyfforddiant tîm ychwanegol ar nos Wener. O ganlyniad, rydyn ni’n bwriadu sefydlu tîm newydd i ferched dan 11 oed.
Oedd gennych chi unrhyw amheuon am Gyllido Torfol ymlaen llaw?
Oedd! A dweud y gwir, roedden ni’n amheus iawn. Doedden ni ddim eisiau gofyn gormod o’r rhieni yn ein clwb ni gan eu bod nhw eisoes yn talu ffioedd ac yn cefnogi’r clwb mewn cymaint o ffyrdd. Ond fe wnaethon nhw benderfynu cefnogi ein hapêl Cyllido Torfol ni a hwn oedd y penderfyniad gorau erioed! Roedd pawb wir yn ein cefnogi ni ac eisiau i ni gyrraedd ein targed.