Skip to main content

Sut i gael camera chwaraeon ar gyfer eich clwb chwaraeon?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut i gael camera chwaraeon ar gyfer eich clwb chwaraeon?

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gael camera chwaraeon awtomatig ar gyfer eich clwb chwaraeon gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru?

Mae technoleg fideo awtomatig yn dod yn boblogaidd iawn mewn clybiau chwaraeon cymunedol ym mhob man. A nawr, mae'r dyfeisiau rhyfedd yr olwg yma wedi bod yn ymddangos ar ochr caeau a chyrtiau ledled Cymru.

Does dim angen criw camera llawn na'ch cyfres eich hun ar Disney i gael lluniau o'ch clwb chwaraeon. Gyda'ch camera chwaraeon AI eich hun, gallwch ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi i edrych yn ôl arnyn nhw a'u dadansoddi. Gallwch rannu eich clipiau a’ch uchafbwyntiau ar gyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.

Mae clybiau cymunedol sy'n chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â'u chwaraewyr neu foderneiddio eu dull gweithredu’n prynu'r camerâu 180° awtomatig yma ac yn tanysgrifio i becynnau dadansoddi. Ond os nad yw hyn yn bosib gyda chyllideb eich clwb, gallwn eich helpu i gael un o’r teclynnau yma y mae galw mawr amdanyn nhw.

Pan fyddwch yn codi arian ar gyfer offer fideo drwy Crowdfunder, efallai y bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi eich prosiect chi gydag arian cyfatebol drwy ein cynllun ‘Lle i Chwaraeon’. Gallech dderbyn addewid gan Chwaraeon Cymru sydd rhwng 30 a 50% o gyfanswm eich targed pan fydd eich prosiect chwarter y ffordd i gyrraedd eich nod.

Felly, cyflwynwch ffurflen mynegi diddordeb, sefydlu tudalen Cyllido Torfol, ymgysylltu â'ch cymuned a dechrau codi arian ar gyfer eich offer camera. Dyma ein canllaw cam wrth gam ni i’ch helpu chi i ddechrau arni.

Swnio'n rhy dda i fod yn wir? Gofynnwch i Glwb Rygbi’r Hendy! Fe wnaethon nhw godi cyllid torfol o fwy na £2000 ar gyfer Camera Veo ar gyfer eu clwb rygbi, a oedd yn cynnwys cyfraniad gan Chwaraeon Cymru o £600 o’n cronfa ‘Lle i Chwaraeon’.

Beth yw camera chwaraeon awtomatig?

Mae camera chwaraeon awtomatig, fel Veo Clwb Rygbi'r Hendy, yn gamera cludadwy sy'n defnyddio technoleg AI i dracio chwaraeon ar y cae yn awtomatig a'u recordio ar ffurf fideo o ansawdd uchel. Does dim angen gweithredwr camera. Gosodwch y camera yn ei le a gadael i'r dechnoleg wneud y gweddill. Hyd yn oed yr uwchlwytho!

Pa fathau o chwaraeon all ddefnyddio camera chwaraeon awtomatig?

Gall pob math o chwaraeon ddefnyddio offer dadansoddi fideo ond yn bennaf mae chwaraeon tîm yn gallu defnyddio camera gyda thracio awtomatig. 

Dyma restr isod fel arweiniad:

  • Pêl droed
  • Rygbi
  • Pêl fasged
  • Pêl rwyd
  • Hoci
  • Lacrosse
  • Pel droed Americanaidd
  • Pêl foli
  • Pêl llaw

Sut mae camera chwaraeon yn gweithio?

Mae'r camera'n defnyddio technoleg AI i ganfod a dilyn y bêl yn awtomatig a'i harddangos mewn golygfa darlledu. Gan ddefnyddio'r dechnoleg yma, fe all hyd yn oed adnabod goliau, ceisiau neu wahanol fathau o ddarnau gosod, a'u labelu nhw yn unol â hynny. Gosodwch y camera yn ei le, pwyso record a mwynhau eich gêm!

Carfan Clwb Rygbi'r Hendy o flaen sgorfwrdd ar ôl gêm.
Clwb Rygbi'r Hendy

Sut gall camera chwaraeon fod o fudd i fy nghlwb chwaraeon i?

Gwella safonau hyfforddi a phrofiad hyfforddi

Gall hyfforddwyr edrych yn ôl ar berfformiadau eu tîm a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a thactegau. Gyda deunydd wedi'i recordio'n awtomatig, mae gan hyfforddwyr adnodd gweledol i ddangos enghreifftiau i'w chwaraewyr o'r hyn maen nhw'n siarad amdano. Bydd hyn yn gwella'r ymarferion, y sesiynau hyfforddi a'r profiad cyffredinol yn eich clwb. Gallwch hyd yn oed recordio'r sesiynau hyfforddi i edrych yn ôl arnyn nhw. Efallai y bydd yn lleihau ychydig ar yr ateb yn ôl roeddech chi'n ei brofi hefyd hyd yn oed!

Ymgysylltu â chwaraewyr a chyfranogwyr

Y dacl fawr yna! Yr ergyd drawiadol o bell! Y sgiliau hudolus! Mae edrych yn ôl ar luniau o gêm yn ffordd arall y gall chwaraewyr ymgysylltu â'u camp a'u cyd-chwaraewyr. Yn y gorffennol, fe fyddech chi wedi gorfod dibynnu ar y cof i gofio’r eiliadau arbennig hynny neu’r cyfleoedd i wella pethau. Ond nawr, fe all y chwaraewyr fwynhau edrych yn ôl ar luniau ohonyn nhw eu hunain a thrafod eiliadau allweddol gyda'u cyd-chwaraewyr a'u hyfforddwyr. A does dim byd tebyg i rannu fideo o'ch gôl ryfeddol yn y sgwrs grŵp!

Mwy o gyhoeddusrwydd a sylw         

Facebook, TikTok neu Twitter - mae camera chwaraeon yn rhoi mynediad i chi i luniau o gemau eich clwb y gallwch chi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch rannu clip o gôl orau’r penwythnos neu greu casgliad o holl geisiau gorau’r mis. Pwy a ŵyr? Fe allech chi fynd yn feiral! Fe all rhai camerâu adnabod yr uchafbwyntiau yn eich gêm yn awtomatig a thorri'r clipiau i chi. Gallai mwy o sylw drwy gynnwys y mae posib ei rannu a phresenoldeb ar-lein cryf annog mwy o bobl i ymuno â'ch clwb chi neu roi cynnig ar gamp newydd.

Cynnig ffrydiau byw

Gallwch gynnig ffrydiau byw o gemau i gefnogwyr eich clwb. Mae YouTube a Vimeo yn sianeli gwych i gynyddu’r sylw i’ch clwb ac mae gan Facebook ffyrdd y gallwch chi ffrydio'n fyw hefyd. Efallai y gallwch chi ddefnyddio'ch technoleg newydd i gael mwy o refeniw i'ch clwb drwy roi gwerth ariannol i’ch ffrydiau byw gyda thaliadau untro neu drwy ei wneud yn gynnig i aelodau yn unig. Does dim rhaid i chi gyfyngu’r mwynhad o’ch gemau i bobl leol yn unig. Efallai bod gan rywun ddiddordeb yn eich clwb o bell ond bod y trip oddi cartref yn dipyn o siwrnai, neu dydi’r tywydd ddim yn ffafriol i wylwyr. Mae ffrydiau byw yn gwneud gemau eich clwb yn fwy hygyrch i bawb.

Cyfleoedd noddi

Gallai'r cynnydd yn y sylw y bydd eich clwb yn ei gael drwy roi’r lluniau yma ar gyfryngau cymdeithasol a ffrydiau byw gynyddu'r apêl ymhlith busnesau lleol hefyd i noddi eich clwb. Gall clipiau atyniadol o gemau eich clwb a delwedd broffesiynol newydd ar eich sianeli cymdeithasol wneud eich clwb yn fwy deniadol i ddarpar noddwyr. Mae mwy o incwm i'ch clwb yn golygu y gallwch chi barhau i gynnig eich camp i'ch cymuned yng Nghymru.

Oes unrhyw glybiau chwaraeon yng Nghymru wedi defnyddio cyllid Chwaraeon Cymru ar gyfer camera?

Oes! Fe gododd Clwb Rygbi’r Hendy fwy na £2000 ar gyfer camera Veo drwy gyllid torfol, ac roedd hyn yn cynnwys cyfraniad o £600 gan Chwaraeon Cymru o’n cronfa ‘Lle i Chwaraeon’.

Meddai’r clwb: “Fe fydd cael y camera Veo yma’n ein helpu ni i ddarparu profiad rygbi llawer mwy cyflawn a chyfoethog a llawer iawn mwy o gyfleoedd dysgu i’n chwaraewyr ni. Fe fyddai gallu cynnig profiadau newydd a chyffrous i’n chwaraewyr ni’n fonws mawr a’r gobaith ydi y bydd yn ysgogi ymgysylltu a chyfranogiad newydd o fewn ein cymuned.

“Bydd hefyd yn ein helpu ni i ddarparu ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a fydd yn datblygu sgiliau technolegol newydd. Bydd hyn yn helpu i foderneiddio’r math o wasanaethau a’r cyfleoedd y gallwn ni eu cynnig i bobl leol yn ein hwb cymunedol ni

Pam mae Chwaraeon Cymru yn ariannu offer dadansoddi fideo?

Mae Tîm Buddsoddi Chwaraeon Cymru yn cefnogi offer dadansoddi fideo drwy 'Lle i Chwaraeon: Crowdfunder', oherwydd y manteision niferus y gallai eu cynnig i glwb chwaraeon.
Mae gan offer dadansoddi fideo y potensial i wella safonau hyfforddi, denu aelodau newydd i glwb, gwella’r profiad oddi ar y cae i chwaraewyr ac aelodau, a hefyd o bosibl gwella cynaliadwyedd clwb, oherwydd apêl gynyddol nawdd gan fusnesau lleol.

Faint mae camera chwaraeon yn ei gostio?

Mae'r pris yn amrywio, yn dibynnu ar frand a manyleb y camera. Bydd gofyn i chi hefyd dalu ffi fisol fel rhan o gynllun tanysgrifio i ddefnyddio'r camera, i storio lluniau ac i gael mynediad i'r golygydd. Fe all unrhyw arian sy’n cael ei godi drwy eich prosiect Crowdfunder a ‘Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru fynd tuag at y rhain.

Er enghraifft, fe gododd Clwb Rygbi'r Hendy fwy na £2,000 i gael Camera Veo a thalu'r costau ychwanegol. Fe gostiodd y camera Veo ei hun £999 a bydd gweddill yr arian a gafodd ei godi yn cyfrannu tuag at gost eu tanysgrifiad.

Ar gyfer pa gamera chwaraeon ddylwn i gael cyllid?

Chi sydd i benderfynu! Cyn belled â’ch bod chi’n gallu dangos sut bydd y dechnoleg fideo o ddewis o fudd i’ch clwb chwaraeon chi, gallem gefnogi eich prosiect Cyllido Torfol drwy ein cynllun ‘Lle i Chwaraeon’.

Fe ddewisodd Clwb Rygbi'r Hendy gamera Veo ond os ydych chi’n ffafrio camera chwaraeon arall, fe allem gefnogi hynny.

Os oes gan eich clwb chwaraeon chi yng Nghymru ddiddordeb mewn prynu camera chwaraeon gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, dilynwch y camau ar gyfer sut i wneud cais i “Lle i Chwaraeon” a chwblhau Ffurflen Datgan Diddordeb.

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy