Skip to main content

Sut mae Cronfa Cymru Actif wedi goleuo sesiynau tywynnu yn y tywyllwch Pêl Fasged Aberystwyth

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sut mae Cronfa Cymru Actif wedi goleuo sesiynau tywynnu yn y tywyllwch Pêl Fasged Aberystwyth

Os oes gennych chi syniad arloesol i gael gwared ar rwystrau i gymryd rhan mewn chwaraeon, gallai Cronfa Cymru Actif eich cefnogi chi. Gofynnwch i Bêl Fasged Aberystwyth a lansiodd sesiynau tywynnu yn y tywyllwch i annog mwy o ferched i gymryd rhan yn y gamp.

Derbyniodd eu prosiect ‘UV Me’ £3,825 o arian y Loteri Genedlaethol i brynu bibiau, peli, cyrsiau hyfforddi a llogi lleoliad gyda’r nod o gyflwyno mwy o ferched i bêl fasged drwy’r fenter hon.

Buom yn siarad â’r hyfforddwr Lee Coulson BEM ym Mhêl Fasged Aberystwyth a rhai o gyfranogwyr y sesiynau tywynnu yn y tywyllwch i gael gwybod ychydig mwy am eu prosiect a’r gefnogaeth gan Chwaraeon Cymru.

Yn gyntaf, beth ydi pêl fasged tywynnu yn y tywyllwch?

Lee Coulson (Hyfforddwr): "Yn y bôn, pêl fasged yn y tywyllwch gyda goleuadau UV ydi pêl fasged tywynnu yn y tywyllwch. Mae pawb yn gwisgo bibiau neon ac mae’r bêl a'r cylch wedi'u tapio â stribedi golau."

Ac o ble daeth y syniad am bêl fasged tywynnu yn y tywyllwch?

Lee: "Fe ddechreuodd pan ofynnodd Pêl Fasged Cadair Olwyn Prydain Fawr i ni gynnal rhai sesiynau blasu ddwy neu dair blynedd yn ôl."

Beth ydi nod pêl fasged tywynnu yn y tywyllwch?

Lee: "Yma yn y clwb, un o’r pethau rydyn ni wir yn canolbwyntio arno ydi cynhwysiant a’r hyn roedden ni eisiau ei wneud oedd chwalu’r rhwystrau pan nad ydi merched yn hoffi cael eu gwylio na chael eu gweld pan fyddan nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau."

Carys (Chwaraewr a Hyfforddwr): "Mae llawer o ferched, yn enwedig merched hŷn sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon, yn poeni am “Ydw i’n ddigon da?” “A fydda’ i’n edrych yn wirion o flaen pobl?” “Dydw i ddim wedi gwneud hyn o'r blaen”.

"Mae Tywynnu yn y Tywyllwch yn cymryd yr agwedd honno o bryder o’r cymryrd rhan, oherwydd er eich bod chi'n gallu gweld pobl, dydych chi ddim yn gallu gweld cystal, felly dydych chi ddim yn cael eich arddangos gymaint ag y byddech chi pe bai'r goleuadau ymlaen. Rydw i’n meddwl bod hynny o fudd enfawr i bobl sydd eisiau dod yn ôl at chwaraeon ond sy’n teimlo bod y rhwystrau hynny’n eu hatal nhw."

Beth ydi barn y cyfranogwyr am bêl fasged tywynnu yn y tywyllwch?

Danny (Swyddog Rhieni a Diogelu): "Mae fy merch 12 oed i, fel llawer o ferched yn eu harddegau, yn poeni am ei delwedd a sut mae hi'n edrych. Ond yr hyn mae hi'n ei fwynhau'n fawr am y sesiwn yma ydi'r ffaith ei fod yn y tywyllwch. Rydych chi’n gallu anghofio am bethau fel hunanddelwedd. Rydych chi'n chwarae am eich bod chi’n hoffi’r gêm."

Sue (Chwaraewr): "Mae'r sesiynau yma’n dipyn o ryddhad o'r gwaith a straen bywyd bob dydd. Dydych chi ddim yn gwybod pwy ydi'r bobl. Unwaith rydych chi wedi rhoi eich bib ymlaen, dim ond bib mewn tîm ydych chi. Does dim pryderon am waith na bywyd yn gyffredinol. Rydych chi yma i chwarae pêl fasged. Yr un fath â phawb arall mewn gwirionedd."

Carys: "Mae'r cysyniad yn swnio ychydig yn rhyfedd ond mewn gwirionedd mae'n llawer o hwyl. Mae'r tywynnu yn y tywyllwch yn cyfrannu agwedd hollol newydd. Mae'n llawer o hwyl, mae'n ymarfer corff, mae'n eich gwneud chi'n ffit ac mae'n eich cael chi i gwrdd â phobl newydd."

Sut mae pobl wedi ymateb i’r prosiect?

Lee: "Yn ystod y rhaglen beilot, rydyn ni wedi cael 15 i 20 o ferched yn mynychu ac mae’n 12 yr wythnos ar gyfartaledd. Mae’n amrywio o ran oedran – mae gennym ni rai 13, 14 oed hyd at 30 neu 40 oed. Mae'r adborth wedi bod yn wych."

Sut gwnaeth Cronfa Cymru Actif gefnogi'r prosiect?

Lee: "Fe helpodd Cronfa Cymru Actif ni i gefnogi’r prosiect UV Me ar gyfer pêl fasged merched. Fe gyfrannodd arian at logi offer a chyfleusterau. Fe wnaeth y cyllid yma ein galluogi ni i gael gwared ar y rhwystr mwyaf un – cost – a chynnal sesiynau am ddim i bobl ddod draw."

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth glybiau eraill sy'n ystyried gwneud cais am arian y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru?

Lee: "Mae Pêl Fasged Aberystwyth yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gronfa Cymru Actif. Rydw i’n annog pob clwb arall sydd allan yna i gysylltu â Chwaraeon Cymru. Mae'r broses grantiau yn syml iawn. Gwnewch gais am y grantiau yma ac wedyn fe welwn ni fwy o'r gweithgareddau yma yn y gymuned."

Oes gennych chi unrhyw gyngor doeth i glybiau chwaraeon eraill?

Lee: "Fy nghyngor i glybiau eraill ym mhob camp arall ydi “Meddyliwch y tu allan i’r bocs.” Ewch allan i’ch gymuned a gofyn iddyn nhw beth maen nhw eisiau a gweld beth ydi’r ymateb.

Rydw i’n meddwl ei bod yn bwysig i ni gael pobl allan yna i rannu eu syniadau. Fe ddaeth yr enw UV Me gan un o'n haelodau ni. Felly, gweld beth mae’r gymuned eisiau, defnyddio Cronfa Cymru Actif a darparu’r gweithgarwch mae’r gymuned ei eisiau."

Os oes gan eich clwb chi ffordd arloesol o annog mwy o bobl i fod yn actif drwy chwaraeon, gallai’r Loteri Genedlaethol gefnogi eich clwb chi, yn union fel y gwnaeth gyda Chlwb Pêl Fasged Aberystwyth. Edrychwch ar Gronfa Cymru Actif a dewch â'ch syniad yn fyw a chael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

Newyddion Diweddaraf

Athletau wedi rhoi cymaint mwy na medalau i James Ledger

Roedd James yn poeni efallai nad oedd chwaraeon yn addas iddo, ond mae nawr yn gobeithio gwisgo fest…

Darllen Mwy

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy