Skip to main content

SYNIAD BACH = GWAHANIAETH MAWR: Cronfa Cymru Actif

Weithiau, y pethau symlaf sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac mae hyn yn sicr yn wir am gynlluniau Clwb Rygbi Llewod Caerdydd i ddefnyddio grant o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

Mae’r clwb yn y ddinas yn darparu lle diogel i ddynion hoyw, strêt a thraws chwarae rygbi. Fe'i sefydlwyd yn 2004 ac mae tua 35 o chwaraewyr yn hyfforddi bob wythnos yn y clwb. Ers mis Medi, mae 10 aelod newydd wedi ymuno.

Mae'r clwb wedi'i leoli ar dir Harlequins Caerdydd ond nid oes ganddo ofod storio ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu bod yr offer, y citiau cymorth cyntaf a chyflenwadau Covid a PPE bellach yn cael eu rhoi yng nghar chwaraewr i'w storio gartref tan y sesiwn nesaf.

Nid yw'n sefyllfa rhy ddrwg nes bod y chwaraewr hwnnw’n methu dod i’r sesiwn nesaf neu, fel y gŵyr y clwb yn rhy dda, nes bod car yn torri i lawr ac yn cael ei lusgo i ffwrdd – gyda'r offer yng nghist y car!

Felly, mae Chwaraeon Cymru wedi camu i’r adwy gyda grant o £3,652, a ddyfarnwyd o ffrwd 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif ac a fydd yn galluogi'r clwb i brynu cynhwysydd storio yn gartref i’w offer. 

Dyma Ysgrifennydd y Clwb, Mark Lewis Evans, i egluro: "Bydd wir yn gwella’r hyfforddiant. Mae'n golygu ein bod ni’n gallu mynd ati i sefydlu’r sesiynau hyfforddi ar unwaith yn hytrach nag aros i'r chwaraewr sydd â'r offer gyrraedd. Mae hefyd yn golygu y bydd posib i ni brynu mwy o offer, fel bagiau a tharianau taclo, y mae grant Cymru Actif yn ein helpu ni gyda nhw hefyd."

Yn ogystal â helpu i gyllido’r cynhwysydd storio a rhywfaint o offer ychwanegol, mae'r grant hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn addysg hyfforddwyr fel bod y clwb yn gallu cynyddu nifer ei Hyfforddwyr Cynorthwyol.

Gyda'r clwb yn ehangu ac yn denu mwy o chwaraewyr, y nod yw i'r cyllid helpu'r clwb i gynyddu ei allu i gynnig gwell hyfforddiant, cyfleoedd cymdeithasol a gemau i’r grwpiau hynny sy’n cael eu tangynrychioli y mae'n bodoli i'w cefnogi.

 

Mae proses ymgeisio Cronfa Cymru Actif wedi cael ei symleiddio'n ddiweddar fel ei bod bellach yn haws i glybiau wneud cais am y cyllid sydd arnynt ei angen. Mae grantiau ar gael i ddiogelu clybiau sy'n wynebu colledion refeniw difrifol yn ystod y cyfnod clo presennol, i helpu clybiau i baratoi i wneud eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid unwaith y bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio, ac i gefnogi clybiau a sefydliadau gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd gwell fyth i'r genedl fod yn actif y tu hwnt i argyfwng Covid-19.