Main Content CTA Title

Uchafbwyntiau ymchwil – effaith y Mislif ar athletwyr elitaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Uchafbwyntiau ymchwil – effaith y Mislif ar athletwyr elitaidd

Mae’r mislif yn dabŵ o hyd ac yn parhau i gael effaith negyddol ar ferched mewn chwaraeon lefel uchaf, yn ôl ymchwil newydd yng Nghymru.

Canfu ymchwil gan Athrofa Gwyddorau Perfformiad Cymru (WIPS), a oedd yn cynnwys nifer o athletwyr, y canlynol:

  • tabŵ ynghylch cylch y mislif a stigma cysylltiedig â bod yn agored a siarad am y mislif.
  • effaith sylweddol ar hyfforddiant a pherfformiad wrth gystadlu.
  • yr angen am fwy o ymwybyddiaeth, ymhlith hyfforddwyr a chyfranogwyr eraill, o'r heriau i athletwyr benywaidd.
Gymnast Jumping

 

Cafwyd sampl o 17 o athletwyr benywaidd o amrywiaeth o chwaraeon ar gyfer yr astudiaeth.

Er bod y profiadau’n gallu amrywio'n fawr ymhlith athletwyr, ceisiodd llawer leihau dwysedd a llwyth hyfforddi, ac roedd amrywiaeth fawr o ran pa mor gyfforddus oedd yr athletwyr yn teimlo ynghylch siarad â hyfforddwyr gwrywaidd.

Dywedodd Bethan Davies, cerddwr rasys, a enillodd fedal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 2018: 

"Rydw i'n credu bod angen siarad mwy am hyn [cylch y mislif], gyda phawb, rhag iddo fod yn bwnc tabŵ a rhag i bobl deimlo'n lletchwith am siarad amdano. 

"Dylai pobl wybod o ble mae posib cael cyngor, os oes angen, neu ddod ychydig yn fwy ymwybodol o gylch y mislif. Rydw i’n credu bod cael mwy o wybodaeth ar gael a mwy o gyfleoedd i sgwrsio am hyn mor bwysig, yn enwedig gan fod pawb yn unigolyn ac mae'n dibynnu'n llwyr ar ble rydych chi a’r amser yn eich bywyd a pha ddulliau atal cenhedlu sydd gennych chi o ran sut gallai effeithio arnoch chi. Os yw'n athletwr arall, un o’ch cyfoedion chi neu aelod o'r tîm cefnogi, rydw i'n meddwl bod rhaid cael llwybrau sydd ar gael yn well, er mwyn gallu cael sgyrsiau am y mislif. 

"Dydi pobl ddim eisiau dweud unrhyw beth, ddim eisiau cael eu barnu am hyn, ond mewn gwirionedd mae llawer o bobl yn yr un cwch."

O dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae WIPS yn bartneriaeth tair ffordd rhwng Chwaraeon Cymru, gwyddonwyr chwaraeon academaidd mwyaf blaenllaw Cymru a phartneriaid perthnasol yn y diwydiant.  Mae eu hymchwil yn helpu athletwyr o Gymru i gystadlu ar lwyfan y byd, yn ogystal ag edrych ar fanteision i'r boblogaeth gyffredinol.

Dywedodd Cynorthwy-ydd Ymchwil  yn WIPS, Dr Natalie Brown:

"Mae wir wedi cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff Athrofa Chwaraeon Cymru o'r heriau mae ein hathletwyr benywaidd ni’n eu hwynebu'n rheolaidd.

"Mae'r ymchwil yn sail i gynnwys ar gyfer rhaglen addysgu hyfforddwyr newydd ac rwy'n trafod gydag UK Coaching i'w defnyddio ar draws chwaraeon yn y gwledydd cartref.

"Ac nid ar gyfer chwaraeon elitaidd yn unig y bydd manteision. Dyma hefyd fu'r sbardun ar gyfer yr ymgyrch We're on it. Period a’r arolwg ar gylch y mislif rydym yn gweithio drwyddynt gyda phobl ifanc ac athrawon yng Nghymru."

I ddarllen yr adroddiad llawn cliciwch yma.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy