Skip to main content

Wythnos Gwirfoddolwyr 2022: Sir yn y Gymuned - “Darparu Cyfleoedd, Gwella Bywydau”

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Wythnos Gwirfoddolwyr 2022: Sir yn y Gymuned - “Darparu Cyfleoedd, Gwella Bywydau”

Yr wythnos yma, mae’r sector chwaraeon yn talu teyrnged i wirfoddolwyr y byd chwaraeon yng Nghymru – a hebddyn nhw, ni fyddai llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn bosibl.

Un clwb sy’n gwneud gwahaniaeth drwy dîm o wirfoddolwyr ymroddedig yw elusen allgymorth Clwb Pêl Droed Sir Casnewydd - Sir yn y Gymuned.

Dau o’u gwirfoddolwyr yw Emily Edwards a Luke De Gilbert, sy’n rhoi o’u hamser i gynnal Ymweliad Diwrnod Gêm Iau Sir Casnewydd a sesiynau Ry’n Ni’n Gwisgo’r Un Crys. Yn rhan o raglen ‘Amser i Newid Cymru’ Cymdeithas Bêl Droed Cymru, mae Ry’n Ni’n Gwisgo’r Un Crys yn cefnogi’r rhai sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl neu anabledd corfforol.

Ar ôl gwirfoddoli am y 6 blynedd diwethaf, a bod yn gefnogwyr oes i Sir Casnewydd, mae Emily a Luke yn credu mai’r peth gorau am fod yn wirfoddolwyr yw’r ymdeimlad o gymuned a’r cyfleoedd maen nhw wedi’u cael ar hyd y daith.

Dywedodd Luke, dyn 27 oed sy’n byw gydag awtistiaeth, “mae gwirfoddoli [gyda Sir yn y Gymuned] wedi fy newid i fel person, mae wedi fy helpu i gwrdd â phobl newydd rwy’n eu hoffi’n fawr ac mae bod yn rhan o Ry’n Ni’n Gwisgo’r Un Crys wedi newid llawer arna’ i hefyd.”

Yn cefnogi gyda’r gwaith o gyflwyno’r Ymweliad Diwrnod Gêm Iau, mae Luke ac Emily yn gwybod eu bod wedi chwarae eu rhan mewn rhoi profiad cofiadwy i filoedd o blant yn Ne Ddwyrain Cymru – o sesiynau holi ac ateb gyda chwaraewyr Sir Casnewydd a chyhoeddi taflenni gêm, i gael sesiwn cicio pêl ar y cae o flaen 10,000 o gefnogwyr.

Ar y dechrau, nid oedd Emily yn siŵr o’i gallu fel hyfforddwr ac yn aml roedd yn teimlo’n swil ac yn amharod i gymryd yr awenau. Ar ôl derbyn cyllid, llwyddodd Sir yn y Gymuned i ddod o hyd i gwrs a oedd yn rhoi’r sgiliau i Emily yr oedd arni eu hangen i ragori.

Gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru yn ystod pandemig COVID-19, roedd Sir yn y Gymuned yn gallu parhau i gyflawni eu gwaith pwysig yn ogystal ag uwchsgilio eu gwirfoddolwyr. Yn achos Emily a Luke, roedd y grant gan Gronfa Cymru Actif yn golygu eu bod yn gallu cymryd rhan yn Arweinwyr Pêl Droed CBDC ac ennill dyfarniadau diogelu.

Dywedodd “Fe ddysgais i lawer – sut i ddeall pan mae plant mewn perygl, mae wedi gwella fy mhrofiad i 100%. Pan ddechreuais i hyfforddi i ddechrau, roeddwn i ychydig yn dawel a ’fyddwn i ddim yn chwythu fy chwiban yn uchel iawn, ond nawr, rydw i'n berson gwahanol ar y cae. Rydw i’n meddwl fy mod i’n hyderus iawn.

Fe fyddwn i'n dweud bod profiad y rhai sy'n mynychu wedi gwella hefyd, mae'r cyrsiau wedi helpu gyda'r gwaith rydw i'n ei wneud gyda’r plant nawr. 

Ein harwyddair ni yw ‘darparu cyfleoedd, gwella bywydau’. Dylid canmol Sir yn y Gymuned am yr hyn mae wedi’i wneud – cefnogi cymunedau a’u gwirfoddolwyr, mae’r ffordd mae wedi cael ei wneud yn wych. Rydw i’n mwynhau fy amser a gobeithio mai dim ond y dechrau ydi hyn.”

Mae Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr yn cael ei chynnal rhwng 1af a 6ed Mehefin, sy'n gyfle gwych i glybiau chwaraeon ledled y wlad ddathlu'r gwaith mae eu gweithlu gwirfoddol yn ei wneud yn wythnosol.

Ar ddydd Sul y 5ed o Fehefin, gallwch chi ymuno yn y dathliadau ar gyfryngau cymdeithasol drwy rannu neges gyda’r hashnod #IechydDaiWirfoddolwyr #CheersForVolunteers.

Os ydych chi’n wirfoddolwr sy’n chwilio am gefnogaeth ychwanegol, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael cefnogaeth ariannol ar gyfer prosiect mawr nesaf eich clwb, gallwch gael mynediad at ystod eang o wybodaeth ac adnoddau ar wefan Chwaraeon Cymru. Ewch i https://www.sport.wales/grants-and-funding/club-support/ i gael gwybod mwy.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy