Mae Matthew Rees yn rocedu i fyny yn y safleoedd chwaraeon modur ac erbyn hyn mae llawer yn ei weld fel seren addawol tu hwnt.
Efallai nad oes sicrwydd eto mai ef fydd y Lewis Hamilton nesaf, ond yn sicr mae'r llanc 16 oed o Gaerdydd wedi cael cychwyn cyflym oddi ar y grid.
Ar ôl ennill teitl anrhydeddus Pencampwriaeth Fformiwla 4 Prydain yn ei dymor cyntaf, mae Rees, gyrrwr rasio sedd sengl, wedi dangos ei ddawn a'i botensial.
Enillodd Matthew rasys ym Mharc Donington a Snetterton eleni, i fynd 12 pwynt ar y blaen cyn y ras olaf yn Brands Hatch.
Ar ôl perfformiad gwych arall yn ei gar rasio Ford EcoBoost 1.6-litr, roedd wedi cipio’r teitl gydag un rownd i fynd.
Bellach mae sôn am y gyrrwr sy’n cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru fel seren chwaraeon modur yn y dyfodol - a does ryfedd am hynny, gan fod cyn-enillwyr Pencampwriaeth F4 Prydain yn cynnwys neb llai na gyrrwr Fformiwla 1 McLaren, Lando Norris.
Mae diddordeb Matthew mewn chwaraeon modur yn deillio o’i dad-cu, a arferai rasio Minis a cheir salŵn.
Dechreuodd y bachgen ysgol gystadlu yn 2013, rasio certiau yn Llandŵ i ddechrau cyn datblygu o hynny a gwneud enw iddo'i hun ledled y wlad.
Cyrhaeddodd y llwyfan rhyngwladol ym Mhencampwriaeth Certio’r Byd FIA yn 2018, ond wedyn camodd yn ôl o rasio yn 2019 pan aeth ei fam yn sâl.
Ar ôl iddi wella, ailddechreuodd Matthew rasio hanner ffordd drwy 2020 gyda thîm JHR Developments - gan ymgyfarwyddo â thraciau’r DU ar efelychydd, cyn creu argraff ar y garfan mewn prawf gaeaf ar Gylchdaith Pen-bre a sicrhau sedd rasio ar gyfer 2021.
Yn cael ei gweithredu fel cyfres gefnogi ar y teledu ar gerdyn rasio Pencampwriaeth Ceir Teithiol Prydain, mae Pencampwriaeth F4 Prydain yn gyfres 30 rownd gyda thair ras bob penwythnos rasio, gan gynnwys ras grid wrth gefn.
Mewn pencampwriaeth lle mae'n rhaid i chi gadw ar ben sefydlu technegol, tactegau a chrefft rasio tra yng nghanol grŵp o geir 160bhp union yr un fath i gyd yn rasio am safle ar fwy na 100mya, roedd Matthew yn rhan o frwydr gyflym drwy gydol y tymor.
Sgoriodd fuddugoliaeth yn ei ras F4 gyntaf i arwain safleoedd y gyrwyr ar y pwynt hanner ffordd.