Mae gan Chwaraeon Cymru draddodiad balch o feithrin talentau athletwyr o safon byd. Mae rhai o enwau mwyaf y byd chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gan Elite Cymru gan gynnwys Tanni Grey Thompson, Nicole Cooke, Geraint Thomas ac Aled Sion Jones.
Mae Elite Cymru wedi bod yn helpu athletwyr Cymru ers 1997 ac mae’n rhoi cymorth iddynt gyda chostau cystadlu. Mewn rhai achosion, rydyn ni hefyd yn darparu pecyn o gefnogaeth gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon drwy ein tîm cynhwysfawr yn Chwaraeon Cymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn perfformiadau elitaidd ar draws amrywiaeth eang o chwaraeon fel bod Cymru’n parhau i fwynhau llwyddiant ar y lefelau uchaf un. Nid yn unig mae llwyddiannau chwaraeon Cymru’n codi proffil ein cenedl fach ni, ond hefyd maen nhw’n ysbrydoli ac yn cymell plant a phobl ifanc.