Wedi'i lleoli yng nghanol Caerdydd ac mewn parcdir hardd, mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn un o'r canolfannau chwaraeon mwyaf a gyda’r offer gorau yng Nghymru.
Pwrpas Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yw darparu cyfleusterau a chefnogaeth i Gyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) ac athletwyr elitaidd. Pan nad oes angen y cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant elitaidd a digwyddiadau CRhC, maent yn cael eu darparu ar gyfer chwaraeon cymunedol a chyfranogiad.
Dewiswch o amrywiaeth o weithgareddau
- Dosbarthiadau ffitrwydd grŵp
- Chwaraeon raced - Tennis, Badminton, Sboncen a Thennis Bwrdd (archebion tennis bwrdd dros y ffôn yn unig - 0300 3003123).
- Campfa cardio a phwysau rhydd
Os ydych chi'n aelod, gallwch fwynhau mynediad am ddim neu am bris is i'r gampfa, y cyrtiau chwaraeon a’r dosbarthiadau ffitrwydd — yn dibynnu ar eich lefel aelodaeth.