Alys Thomas - Nofio

Enw: Alys Thomas
Ganwyd yn: Llundain, Lloegr
Ysgol: Ysgol y Fonesig Eleanor Holles
Clwb (Clybiau): Clwb Nofio Kingston Royals, Gweithgareddau Dŵr Dinas Abertawe
Dull: Pili Pala
Chwaraeon Eraill:
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Gemau’r Gymanwlad (Aur ac Efydd 2018), Pencampwriaethau Ewropeaidd (2 x Efydd 2018)
Anrhydeddau Eraill:
Ym mha glwb wnaeth Alys ddechrau nofio?
Does dim moment ym mywyd Alys y mae’n gallu ei gofio a hithau ddim yn nofio. Gan dyfu i fyny yn Llundain, mae Alys wedi bod yn nofio er pan oedd yn fabi cyn cael ei darganfod gan Glwb Nofio Kingston Royals yn ddim ond 5 oed.
Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Alys Thomas
Yr hyn oedd yn ei gwneud yn nodedig yn yr oedran hwnnw oedd gallu nofio pili pala eisoes – sy’n parhau yn ddull arbenigol ganddi hyd heddiw.
Ar ba ddyddiadau fydd Alys yn cystadlu yn Tokyo 2020?
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 11.28 (BST) Rhagbrofion
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - 02.57 Rowndiau Terfynol
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - 03.28 Rownd Derfynol