Skip to main content

Y grefft o ysgrifennu arolygon effeithiol a chael yr wybodaeth sydd arnoch ei hangen

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Bod yn Berson-Ganolog
  4. Y grefft o ysgrifennu arolygon effeithiol a chael yr wybodaeth sydd arnoch ei hangen

gan Dr Pamela Campanelli

Mae arolygon yn ddull hynod boblogaidd ar gyfer casglu gwybodaeth. Ond ydych chi erioed wedi darganfod yn rhy hwyr na sicrhaodd cwestiynau eich arolwg ddata defnyddiol neu ddefnyddiadwy? 

Mae'r cwrs hwn yn ymwneud â dysgu'r grefft o ysgrifennu holiadur effeithiol yn ogystal â'r hyn sy'n gysylltiedig â chynnal arolwg yn effeithiol. Gan ddechrau gyda throsolwg o gamau allweddol mewn arolwg, mae wedyn yn canolbwyntio ar ddiffinio poblogaethau, mathau o samplau, dulliau casglu data, hyd holiadur, amserlenni casglu data a ffyrdd o leihau diffyg ymateb. Yn ogystal, mae'n canolbwyntio ar egwyddorion allweddol dylunio holiaduron gan roi sylw i egwyddorion cyffredinol, a'r materion wrth ofyn cwestiynau ffeithiol, goddrychol a sensitif. Mae'r diwrnod wedi'i gynllunio fel bod y cyfranogwyr yn gallu gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau drwy gydol y dydd. Mae gweithdai i roi dysgu ar waith hefyd.

Amcanion Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan y cyfranogwyr: 

  • Ymwybyddiaeth dda o'r agweddau ar gynllunio arolwg gan gynnwys diffinio poblogaethau, mathau o samplau, dulliau casglu data, hyd holiadur, amserlenni casglu data a ffyrdd o leihau diffyg ymateb.
  • Mwy o gydnabyddiaeth o'r gwahanol agweddau sy'n gysylltiedig ag ysgrifennu cwestiynau a holiaduron arolwg da.
  • Yr adnoddau i feirniadu arolygon presennol.
  • Yr wybodaeth i allu ysgrifennu eu holiaduron o ansawdd uchel eu hunain.

Am y Cyflwynwr

Mae Dr. Campanelli yn arbenigwraig ar ddulliau arolygu, gwyddonydd siartredig, ystadegydd siartredig, cymrawd yr academi gwyddorau cymdeithasol a hyfforddwr, ymchwilydd ac ymgynghorydd rhyngwladol sy'n rhedeg ei busnes ei hun, “The Survey Coach”. Mae ei chefndir mewn ystadegau cymdeithasol, methodoleg arolwg, a seicoleg gyda diddordeb arbennig mewn astudio gwall arolygon ac ansawdd data gan ganolbwyntio ar ddylunio holiaduron, strategaethau profi cwestiynau, technegau cyfweld, samplu a phwysoli, dadansoddi arolygon, a dyluniadau modd cymysg. Yn ogystal â darparu ymgynghoriaeth, cynnal ymchwil, ysgrifennu papurau, adolygu ar gyfer cyfnodolion, cynghori pwyllgorau, mae Dr. Campanelli yn canolbwyntio ar ddarparu cyrsiau hyfforddi. Mae hi wedi ymrwymo i ddysgu o ansawdd uchel. Mae hi’n credu mewn cyflwyno cyrsiau sy’n fywiog ac yn ddifyr, meithrin awyrgylch anffurfiol a rhyngweithiol, cyfathrebu cysyniadau mewn ffordd syml a hygyrch, darlunio’r deunydd drwy ddefnyddio enghreifftiau ‘bywyd real’, a darparu gweithdai i roi theori ar waith.