Skip to main content
  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Dod â Phobl at ei Gilydd ar gyfer y Tymor Hir / Cynllunio ar gyfer Llwyddiant
  4. Pam mae cynllunio strategol fel hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth Dyn Haearn

Pam mae cynllunio strategol fel hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth Dyn Haearn

Wrth feddwl am y peth, mae sicrhau llwyddiant mewn chwaraeon neu ym myd busnes yn gofyn am yr un math o gynllunio yn aml.

Mae Amy Seppman yn cytuno gyda hyn yn sicr. Mae’r Cyfarwyddwr Marchnata a’r Partner yn JCP Solicitors wedi cwblhau cystadleuaeth heriol Dyn Haearn Cymru hefyd.

Yma mae’n nodi ei hanfodion ar gyfer cynllunio tymor hir.

Fel y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod, mae’r gystadleuaeth Dyn Haearn, sy’n cael ei hystyried yn aml fel un o’r rasys dygnedd anoddaf ar y blaned, yn cynnwys nofio 2.4 milltir, beicio 112 milltir, ac wedyn marathon. Wrth gwrs, mae’n ras sy’n gofyn am gynllun gofalus. 

Rydych chi’n gosod nod, yn dadansoddi eich sefyllfa bresennol ac wedyn yn gwneud cynllun i gyrraedd ble rydych chi eisiau bod. Mae hyn yn debyg iawn i gynllunio tymor hir mewn sefydliad. 

Peidiwch â chael unrhyw syniadau anghywir, ’sa i’n athletwr gwych, dim ond un sydd wedi cwblhau ras. Pan wnes i roi fy enw ar gyfer cystadleuaeth Dyn Haearn Cymru yn 2019, fy unig nod i oedd croesi’r llinell mewn un darn.  

 

Ble mae dechrau?     

Fe wnes i benderfynu flwyddyn ymlaen llaw fy mod i eisiau gwneud y ras, ond doeddwn i ddim yn gwbl amhrofiadol. Roeddwn i wedi gwneud triathlon pellter canol eisoes, marathon a rhai rasys nofio hir, ac roeddwn i’n gwybod bod rhoi blwyddyn i mi fy hun yn realistig. Wrth gwrs, roedd yn mynd i fod yn waith caled ac fe allai sawl peth fynd o’i le ar hyd y daith, ond roeddwn i’n gwybod ym mêr fy esgyrn y gallwn i ei wneud e dim ond i mi weithio’n galed. 

Rydw i’n meddwl bod hon yn agwedd wych at gynllunio strategol yn y tymor hir. Beth ydych chi eisiau ei gyflawni ac a yw’n bosib gwneud hynny? 

 

Bod yn realistig

Mae gosod nodau chwaraeon afrealistig yn lladd unrhyw hyder. Mae’r un peth yn wir am gynllunio tymor hir mewn busnes. Peidiwch â cheisio mynd o ddim byd i fod yn arwr mewn dim o dro. Byddwch yn realistig a sicrhau cefnogaeth pawb. Ni fydd pobl yn cefnogi pethau nad ydyn nhw’n credu fydd yn gallu digwydd. Gosodwch nodau cyraeddadwy ond hefyd mae’n rhaid wrth waith caled a ffocws i gadw ar y trac. 

 

Rhannu’n adrannau 

Er mai fy nod cyffredinol i oedd gorffen y ras, roedd rhaid i mi ei rhannu’n adrannau unigol. Er mwyn gorffen y ras yn yr 17 awr oedd wedi’u neilltuo, roedd rhaid i mi fod yn realistig am y gwahanol elfennau a faint o amser oedd arna’ i ei angen ar gyfer y nofio, y beicio a’r rhedeg. Roedd rhaid wrth gynllun ar gyfer pob un o’r adrannau yma. 

Sut bydd y gwahanol rannau o’ch sefydliad, fel y sectorau rydych chi’n eu gwasanaethu, neu’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig, yn cyfrannu at eich gweledigaeth gyffredinol?

 

Cadw llygad ar y cystadleuwyr eraill    

Dydi hyn ddim yn berthnasol i mi, ond os ydych chi am ennill cystadleuaeth Dyn Haearn, rhaid i chi wybod pwy yw eich gwrthwynebwyr. Byddwch yn cadw llygad manwl ar y rhai fydd yn cystadlu yn eich erbyn, yn monitro eu rasys ac yn edrych ar eu hamseroedd. Byddwch yn gwybod ym mha amodau maen nhw’n rasio’n dda a pha amodau nad ydyn nhw’n eu hoffi. Fe fyddwch chi’n eu gwylio nhw, ac fe fyddan nhw’n eich gwylio chi. 

Rhaid i chi wneud y dadansoddiad yma ar gyfer eich cynllun tymor hir hefyd, pwy yw’r chwaraewyr sydd wedi sefydlu’n dda, a phwy sy’n fwy anwadal? Pwy neu beth yw’r bygythiad mwyaf i chi? 

Efallai nad cystadleuydd fydd y bygythiad mwyaf i chi, ond deddfwriaeth o bosib, cyllid, neu ddod o hyd i bobl gyda’r sgiliau priodol i yrru eich sefydliad yn ei flaen. Mae edrych ar eich amgylchedd ac adnabod yr heriau y byddwch yn dod ar eu traws ar hyd y ffordd yn bwysig er mwyn i chi fod yn barod ac, yn well fyth, er mwyn eu troi’n gyfleoedd. 

 

Aros ar y trac 

Os mai eich nod cyffredinol yw bod yn Ddyn Haearn, er y bydd rasys eraill ar hyd y daith yn gallu helpu gyda’ch hyfforddiant, bydd gormod ohonyn nhw’n gwastraffu eich arian, yn achosi i chi flino, yn gwneud i chi golli ffocws ac, yn anochel, byddant yn arwain at anaf. 

Mae’r un peth yn berthnasol i’ch sefydliad. Peidiwch â cheisio cyflawni gormod, bydd yn defnyddio eich amser ac yn gwario eich cyllideb farchnata werthfawr. Rhowch sylw i’r gweithgareddau fydd yn gwneud gwahaniaeth.       

Y peth anoddaf i unrhyw farchnatwr, yn fy marn i, yw cynghori yn erbyn rhywbeth y mae eich uwch-swyddogion eisiau ei gefnogi ond nad ydych chi’n teimlo fydd yn eich helpu i gyflawni nodau eich cynllun strategol. 

Cael perthynas dda gyda’ch rhanddeiliaid yw fy nghyngor gorau i. ’Fyddwch chi ddim yn ennill pob brwydr ac weithiau bydd rhaid i chi ildio er mwyn ennill y rhyfel.  

 

Mesur ble rydych chi

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl sy’n hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth Dyn Haearn ras o bellter eithaf mawr rywle yng nghanol eu cynllun hyfforddi, heb fod yn rhy gynnar a heb fod yn rhy hwyr. Bydd hyn yn mesur ble maen nhw fel rhan o’u hyfforddiant ac yn rhoi hyder iddyn nhw eu bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn. Bydd hefyd yn tynnu sylw at unrhyw feysydd sydd angen sylw ychwanegol.          

Os ydych chi angen bod yma erbyn y dyddiad hwn, ble rydych chi angen bod 6 mis cyn hynny, a 6 mis cyn hynny wedyn? Sut byddwch chi’n mesur ble rydych chi ar unrhyw amser penodol? 

 

Adnabod eich athletwyr 

Mae hyfforddwr yn gwybod sut i weithio gyda’i athletwyr a chael y gorau ganddyn nhw. Dylech chi wybod sut i ysgrifennu a chyflwyno i’ch rhanddeiliaid. Efallai y bydd arnoch chi angen cefnogaeth gan wahanol dimau ac adrannau – nid yw’n debygol o fod yn ddull o weithredu un maint yn ffitio pawb. 

Pan rydych chi’n ysgrifennu eich cynllun, meddyliwch am bwy ydych chi’n ei ysgrifennu ar eu cyfer. Rhaid iddo ddarbwyllo ac os byddwch yn ei lenwi gyda jargon marchnata, efallai y byddwch yn colli eich cynulleidfa. Peidiwch â gorfeddwl amdano, na’i orgymhlethu a pheidiwch chwaith â chreu unrhyw beth na fydd gan bobl amser i’w ddarllen.           

 

Herio’r storm

Os yw’r tywydd yn wael ar ddiwrnod y ras, sut byddwch yn addasu? Beth fydd raid i chi ei newid a’i ddiwygio? Oes gennych chi ddillad ychwanegol i’w gwisgo?

Fe wnes i gofrestru ar gyfer Dyn Haearn Cymru yn ôl yn 2016 i ddechrau, ond ym mis Mai y flwyddyn honno, fe gefais i anaf i fy mhen-glin. Yn methu rhedeg na beicio, roedd rhaid i mi fod yn realistig a  newid fy nod. Fe wnes i ganslo fy lle a chofrestru ar gyfer rasys nofio pellter hir. Peidiwch â ’nghamddeall i, nofiwr cyffredin iawn ydw i o hyd, ar fy ngorau, ond heb y flwyddyn honno, mae’n debyg na fyddwn i y nofiwr ydw i heddiw. 

Byddwch yn barod i esblygu ac addasu ac, yn bwysicach na dim, dysgu. Pan mae’n rhaid i ni newid llwybr, mae’n dysgu cadernid i ni. Gwneud y penderfyniad yn gynnar yw’r peth anoddaf yn aml.             

 

I gloi        

Peidiwch â thanamcangyfrif pwysigrwydd perthnasoedd mewnol, dewiswch eich brwydrau yn ddoeth, a rhaid i chi ddeall ble mae eich rhanddeiliaid eisiau mynd. Rydw i’n siarad yn aml gyda swyddogion marchnata sydd wedi cael cais am ysgrifennu cynlluniau ond nid ydynt yn siŵr beth yw nodau tymor hir y sefydliad. Does dim posib cynllunio llwybr os nad yw’r ffordd yn arwain i unrhyw le. 

Amy Sherman taking part in Iron Man

 

Amy Seppman yw Cyfarwyddwr Marchnata JCP Solicitors, cwmni cyfreithiol amlddisgyblaeth gyda 200 o gyflogeion a swyddfeydd ledled De Cymru. Yn goruchwylio tîm o 4, prif rôl Amy yw cynorthwyo gyda chynllunio a datblygu strategol, gan sicrhau bod holl weithgarwch marchnata’r cwmni’n cyd-fynd â’i strategaeth busnes. Yn aelod o’r Sefydliad Marchnata Siartredig, cafodd Amy ei gwneud yn bartner yn JCP yn 2013 a daeth yn un o berchnogion y cwmni cyfreithiol ym mis Gorffennaf 2020.