Mae marchnata yn newid yn gyson ac mae dulliau cyfathrebu yn parhau i esblygu. Gall fod yn anodd cadw i fyny â’r tueddiadau diweddaraf ond er mwyn sicrhau bod ein neges yn parhau i gyrraedd ein cynulleidfa, mae angen i ni gadw ar ben ein gêm ddigidol.
Er mwyn helpu sector chwaraeon Cymru i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu effeithiol yn 2023, bydd Liberty Marketing yn rhannu eu cynghorion a’u triciau yn y sesiwn CLIP unigryw yma.
Am y sesiwn
Gan roi'r hyder i chi roi cynnig ar yr arloesedd marchnata diweddaraf, bydd y sesiwn yma’n rhoi cyflwyniad i chi i rai o'r technolegau a'r tueddiadau i'w hystyried yn eich cyfathrebu.
Bydd y sesiwn yma’n cynnwys:
- Cynnydd Dibendraw TikTok a Beth Mae Hynny'n Ei Olygu i Farchnatwyr Chwaraeon
- Profiad, Arbenigedd, Awdurdod ac Ymddiriedaeth: y pethau hanfodol diweddaraf i SEO
- Sut gall platfformau AI eich helpu chi i wella – a lle na fyddant yn gwneud hynny
- Deall eich cynulleidfa
- Holi ac Ateb
Am y cyflwynydd
Phil Woodward yw Pennaeth Creadigol Liberty and Foundation, lle mae’n gweithio ochr yn ochr â thimau Cyflenwi a Thwf i sicrhau bod eu marchnata mor effeithiol ag y gall fod. Mae hefyd yn arwain ar allbwn ymgynghoriaeth a hyfforddiant digidol yr asiantaeth, lle mae wedi hyfforddi pobl fel Universal Music, Prifysgol Abertawe, Maethu Cymru a’r RFU.