Os nad ydych chi wedi cael cyfle i wylio’r sesiwn ‘Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gyda SEO’ – peidiwch â phoeni! Rydyn ni wedi casglu'r holl awgrymiadau da a'u rhoi nhw mewn un lle
Cyflymu eich gwefan
- Gwella cyflymder llwytho drwy leihau maint y llun - gwnewch yn siŵr eu bod yn 500kb
- Mae gwefan araf yn cyfrannu at amser aros isel (yr amser mae darllenwyr yn ei dreulio ar eich gwefan)
- Gall gwefan araf arwain at gyfradd bownsio uchel – yn enwedig os oes gan rywun gysylltiad rhyngrwyd gwael
Defnyddio’r tag teitl
- Cynnwys eich gair allweddol targed yn y teitl (mae hyn yn helpu'r peiriant chwilio i wybod beth yw pwrpas eich cynnwys a'i raddio'n briodol)
- Ei gadw i 60 nod neu lai
- Defnyddio URL byr a bachog sy'n gofiadwy ac yn cynnwys yr allweddair
Manteisio i’r eithaf ar destun alt y llun
- Ystyried anghenion hygyrchedd yn gyntaf e.e. bydd rhywun sy'n defnyddio darllenydd sgrin eisiau gwybod beth sydd yn y llun
- Mae'r peiriant chwilio’n darllen y dudalen gyfan, felly cynhwyswch allweddair yn y testun alt os yw'n gwneud synnwyr ac os nad yw'n peryglu hygyrchedd
- Gwneud yn siŵr bod y testun alt yn disgrifio beth sydd yn y llun
Gwneud y defnydd gorau posib o’r meta ddisgrifiad
- Efallai mai meta ddisgrifiad tudalen yw'r peth cyntaf fydd y gynulleidfa yn ei weld ar gipolwg y peiriant chwilio
- Cynnwys eich geiriau allweddol targed yn y meta ddisgrifiad
- Defnyddio hwn i ddangos i ddefnyddwyr bod eich tudalen yn ymdrin â phwnc maen nhw eisiau dysgu amdano
- Dysgu mwy am feta ddisgrifiadau yma
Defnyddio dolenni mewnol
- Gall defnyddio dolenni mewnol wella gallu cropian, profiad y defnyddiwr a hygrededd.
- Gwneud yn siŵr eu bod mewn lleoliad rhesymegol sy’n gwneud synnwyr
Ôl-ddolen
- Bydd cyfeirio pobl at eich gwefan o wefannau eraill yn eich helpu chi i raddio'n uwch
- Gwneud yn siŵr bod y wefan y mae ôl-ddolen atoch chi ohoni o ansawdd uchel i’ch helpu i sgorio’n uwch
- Mae Google yn cydnabod ôl-ddolenni fel 'pleidlais o hyder'
Canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr
- Cael gwared ar fotymau diangen i wneud penderfyniadau yn haws i'ch defnyddwyr
- Gwneud yn siŵr bod eich gwefan yn gyfeillgar i ffonau symudol hefyd, rhagolwg yn y modd symudol bob amser
Sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf
- Creu cynnwys bob 28 diwrnod o leiaf fel bod y peiriant chwilio yn gwybod eich bod yn weithredol
- Diweddaru unrhyw gynnwys sydd wedi dyddio a'i gadw'n ffres
Dadansoddi perfformiad eich gwefan gydag adnoddau Google:
- Gwylio ein Sesiwn Gloywi ar Google Analytics 4
- Defnyddio’r Cynllunydd Allweddeiriau i ddeall eich defnyddwyr a chynllunio eich ymgyrchoedd
Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy a chlywed am yr awgrymiadau hyn yn fanylach, edrychwch ar y cyflwyniad a gwylio recordiad y sesiwn yma.