Skip to main content

Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gydag SEO

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd gydag SEO

Gydag Optimeiddiad Peiriannau Chwilio (SEO), gall eich gwefan ddod yn fwy gweladwy drwy raddio'n uwch ar beiriannau chwilio. Gall cael eich gwefan yn y canlyniadau chwilio uchaf ar dudalen gyntaf Google neu Bing eich helpu i gyrraedd mwy fyth o bobl.

Yn y sesiwn CLIP yma, bydd cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio technegau SEO i wneud i'ch negeseuon fynd ymhellach drwy gyrraedd mwy o ddarpar ddefnyddwyr ar beiriannau chwilio. Felly, rhowch y cyfle gorau i'ch sefydliad gael ei ddarganfod drwy ddeall yr hyn y mae defnyddwyr yn chwilio amdano a gwneud y gorau o'ch cynnwys ar eu cyfer.

Am y sesiwn yma   

Bydd Web Adept yn eich helpu i ymgorffori SEO yn eich ffordd o feddwl wrth adeiladu tudalennau newydd neu greu cynnwys ffres ar gyfer eich gwefan.

Bydd y sesiwn yma’n cynnwys:

  • Hanfodion SEO
  • Ymchwil Allweddeiriau
  • Optimeiddio ar dudalen
  • Optimeiddio oddi ar dudalen
  • SEO Technegol
  • Dadansoddeg ac adrodd
  • SEO Lleol
  • Marchnata cynnwys
  • Adnoddau SEO

Am y cyflwynydd 

Wedi’u lleoli yn Nhyddewi a Chaerdydd, mae’r arbenigwyr dylunio a datblygu gwefannau, Web Adept, wedi bod yn helpu busnesau gyda’u llwyddiant digidol ers 1997.

Yn cyflwyno’r sesiwn yma mae eu sylfaenydd, Angus, sydd wedi cyflwyno gweithdai hyfforddi ac atebion digidol ledled y byd mewn sectorau o dwristiaeth ryngwladol i ysgolion anabledd arbenigol. Ei brif nod yw galluogi sefydliadau i ddatgloi eu potensial digidol a chyflawni eu nodau ar-lein.

Cyfrinair: CONTENTISKING