Skip to main content

Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 27ain Mai

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfres Ddysgu Mai 2021
  4. Cyfres Ddysgu: Dydd Iau 27ain Mai

Dydd Iau 27ain Mai

Integreiddio Dull Hyfforddi yn eich Arweinyddiaeth gyda Trudy Wright 

Mae ymchwil wedi dangos bod sgiliau hyfforddi yn rhan hanfodol o arweinyddiaeth effeithiol yn yr 21ain ganrif.  Mae'r gweithdy hwn yn taflu goleuni ar rai o'r sgiliau hynny ac yn awgrymu ffyrdd ymarferol o'u hintegreiddio yn eich arddull arwain.

Leon Brown yn chwarae rygbi dros y Dreigiau

Adlewyrchu i sicrhau’r effaith orau bosibl o’r Gyfres Ddysgu gyda Sue Blight, First Ascent

Wrth i'r Gyfres Ddysgu ddirwyn i ben, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn gallu defnyddio'r hyn rydych wedi'i ddysgu i'r eithaf, yn y tymor byr a'r tymor hwy. Ymunwch â'r sesiwn yma os ydych chi eisiau sicrhau’r budd mwyaf o'r amser rydych chi wedi’i fuddsoddi yn y Gyfres. Bydd Sue yn eich helpu i ymarfer technegau adlewyrchu er mwyn ystyried yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, a chysylltu'r dysgu hwnnw â'ch nodau ehangach gartref neu yn y gwaith. Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn procio’r meddwl, felly dewch â'ch "het bwrpasol"!

Leon Brown yn chwarae rygbi dros y Dreigiau

Gwneud y Cae Chwarae'n Decach

Cyfle i gael gwybod beth sydd angen digwydd i ddylanwadu ar ddyfodol chwaraeon yn y DU. Rydym yn falch iawn o groesawu Ladi Ajayi, Pennaeth Chwaraeon AKD Solutions, a fydd yn rhannu eu canfyddiadau o brosiect ymchwil Profiad Byw #RhannwchEichStori ledled y DU yn 2021, oedd yn edrych ar effaith hil a hiliaeth mewn chwaraeon.  

Manteisiwch ar y cyfle yma i glywed beth mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym a dechrau edrych ar sut mae'n rhaid i ni, yn unigol, yn sefydliadol ac fel sector ar y cyd, arwain newid i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol, o'r ystafell fwrdd i glybiau cymunedol ar lawr gwlad.  

Mae Ladi yn strategydd medrus iawn gyda phrofiad gweithredol helaeth ym maes Chwaraeon, Cymunedau a Datblygu Arweinyddiaeth. Mae'n eiriolwr cadarn dros bŵer gweithgarwch corfforol i newid bywydau ac mae'n credu y "Dylai creadigrwydd ac arloesedd fod y tu ôl i unrhyw ddarpariaeth." Mae Ladi yn aelod o banel ymgynghorol UK Coaching ac yn aelod o fwrdd BComs.

Leon Brown yn chwarae rygbi dros y Dreigiau