Skip to main content

Ymchwil Traciwr Gweithgareddau Cymru - Sut mae oedolion yn teimlo am chwaraeon yn 2022?

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Gwybodaeth, Ymychwil a Materion Cyhoeddus
  4. Ymchwil Traciwr Gweithgareddau Cymru - Sut mae oedolion yn teimlo am chwaraeon yn 2022?

Darganfyddwch beth yw goblygiadau ein cylch diweddaraf o ymchwil ComRes i chwaraeon yn 2022

Yn y sesiwn yma, bydd tîm Dirnadaeth Chwaraeon Cymru yn cyflwyno canfyddiadau o’r cylch diweddaraf o ymchwil ComRes, gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu ym mhedwar cylch blaenorol yr arolwg ac ymchwilio i’r hyn y mae oedolion yn ei ddweud am chwaraeon yn y cam hwn yn y pandemig.

Wrth i gyfyngiadau a gofynion ynghylch covid-19 barhau i gael eu llacio…

  • Pa chwaraeon mae oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddyn nhw?
  • Pa chwaraeon yr hoffai oedolion wneud mwy ohonynt a beth fyddai'n eu helpu i'w wneud?
  • Ydi oedolion yn dychwelyd i swyddogaethau gwirfoddoli yr oeddent yn eu gwneud yn flaenorol?
  • Pa mor hyderus mae pobl yn teimlo am gymryd rhan mewn gwahanol leoliadau?
  • Beth fyddai'n gwneud chwaraeon yn fwy pleserus i bobl?
  • Ydi oedolion yn teimlo y gallant gael mynediad i gyfleusterau o ansawdd uchel yn eu hardal?