Cael y gorau o adnoddau digidol
Cyflwyniad
Mae canolbwyntio ar sut i gael y gorau o'r adnoddau sydd gennych chi eisoes neu'r adnoddau y gallwch gael mynediad hwylus iddynt yn ffordd wych o sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl. Mae'r adran hon o'r Pecyn Adnoddau Taclo’r Digidol yn cynnwys y canlynol:
- Enghreifftiau o adnoddau digidol am ddim a all helpu i wneud llif gwaith eich tîm yn fwy effeithlon
- Gwybodaeth am sut i ddefnyddio gwahanol adnoddau digidol i wella cydweithrediad ac effeithlonrwydd eich tîm
- Syniadau ac awgrymiadau mewn perthynas â’r adnoddau digidol a ddefnyddir yn gyffredin
Pam defnyddio adnoddau ar-lein / digidol?
- Arbed amser a chynyddu effeithlonrwydd drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth.
- Os oes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd, mae'n hawdd cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen heb broblemau.
- Gallwch gael mynediad at adnoddau ar-lein drwy unrhyw borwr gyda rhybudd byr iawn, sy'n golygu ei bod yn bosibl eu defnyddio o unrhyw ddyfais.
- Mae adnoddau ar-lein yn eich galluogi chi i gydweithio mewn amser real gydag unrhyw nifer o bobl gan ei gwneud yn hawdd rhannu dogfennau heb broblemau gyda rheoli fersiynau.
- Mae adnoddau ar-lein wedi'u cynllunio a'u datblygu ar gyfer tasgau penodol, gan eich rhoi chi ar y blaen wrth gyflawni eich nodau. Er enghraifft, mae adnoddau arolygu yn golygu ei bod yn gyflym ac yn hawdd creu a rhannu arolygon sydd wedi'u teilwra'n llwyr.
Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn
Unrhyw un sydd eisiau help i ddefnyddio'r Pecyn Adnoddau Taclo’r Digidol, neu sydd eisiau cael y gorau o'r adnoddau presennol neu am ddim. Mae’r canllaw yma’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a chymhlethdod – os nad yw adran yn berthnasol i chi, mae croeso i chi ei neidio.
Canlyniadau Dysgu
Wrth weithio drwy'r adnoddau yma, dylech sicrhau dealltwriaeth sylfaenol o sut i ddefnyddio'r adnoddau rydyn ni'n eu trafod. Efallai na fydd gennych fynediad at yr holl adnoddau felly, lle mae hynny wedi bod yn bosib, rydyn ni wedi darparu ychydig o opsiynau.
Crynodeb
Byddwn yn ehangu'r rhan yma o'r Pecyn Adnoddau Taclo’r Digidol gydag amser. Fodd bynnag, rydyn ni wedi dechrau drwy ddiffinio dau faes targed, a rhai adnoddau sy’n ddefnyddiol wrth fynd atynt. Mae'r holl adnoddau’n darparu gwasanaeth am ddim; fodd bynnag, mae rhai yn gyfyngedig a bydd angen i chi uwchraddio i gyfrif talu os ydych chi'n dymuno defnyddio'r nodweddion ychwanegol. Y rhain yw: