Skip to main content

Trafodaeth Taclo’r Digidol

Yn ystod trafodaethau gyda phartneriaid Chwaraeon Cymru, nodwyd angen am gymuned ddysgu lle gall partneriaid gefnogi a rhannu gwybodaeth ddigidol gyda’i gilydd. O ganlyniad, rydyn ni wedi trefnu cyfres o drafodaethau Taclo’r Digidol i ategu’r Pecyn Adnoddau yma, gan roi cyfle i bartneriaid rannu profiad a dysgu.

Mae’r trafodaethau hyn yn gyfle i gasglu gwybodaeth gan bartneriaid sydd wedyn yn cael ei bwydo i’r adrannau perthnasol yn y Pecyn Adnoddau, wrth i ni i gyd gyfrannu at y nod yn y pen draw o gynyddu hyder digidol partneriaid.

Roedd y sesiwn yma’n rhoi sylw i’r canlynol:

  • Beth oedd nod Taclo’r Digidol a beth oedd y canlyniadau
  • Astudiaeth achos: Ystyried prosiect o’r camau cychwynnol hyd at ei gwblhau
  • Sesiwn cwestiwn ac ateb
  • Uchafbwyntiau adnoddau Taclo’r Digidol
  • Ôl-weithredol: cyflle i edrych yn ôl ar y gyfres Taclo’r Digidol a thrafod beth aeth yn dda, beth gall gwella a syniadau ar gyfer dyfodol Taclo’r Digidol

 

Gallwch weld y pecyn llawn o sleidiau yma.