Skip to main content

Athrofa Cymru Ar Gyfer Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Athrofa Cymru Ar Gyfer Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon

Mae Athrofa Cymru ar gyfer Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon (WIPAHS) yn rhwydwaith ledled Cymru o Brifysgolion Cymru a Chwaraeon Cymru. Gydag aelodau wedi'u lleoli ledled Cymru, rydym yn gallu manteisio ar ddiwylliant unigryw y genedl a'i hamrywiaeth nodedig o arbenigedd a diwydiant. 

Mae WIPAHS yn dod ag academyddion blaengar yn fyd-eang at ei gilydd, gyda chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru, sy'n cael eu gyrru i ateb cwestiynau sy'n seiliedig ar ymarfer, nodi cwestiynau ymchwil sylfaenol, a sicrhau bod y canfyddiadau’n cael eu hadlewyrchu ym mholisi Cymru.

Dwy fenyw yn ymarfer corff yn y gampfa

Trosolwg

Fel sefydliad sy'n cael ei yrru gan ymarfer, mae WIPAHS yn gweithredu i ateb y cwestiynau a ofynnir gan bartneriaid sy'n gweithio yn y maes, yn ogystal â lledaenu gwybodaeth yn eang ar draws amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Mae WIPAHS yn ceisio defnyddio pŵer trawsnewid gweithgarwch corfforol a chwaraeon i wella bywydau pobl yng Nghymru. Yn y pen draw, cenhadaeth WIPAHS yw meithrin gallu ledled Cymru, hyfforddi gwyddonwyr y dyfodol a chynyddu’r cydweithredu strategol rhwng Chwaraeon Cymru, y byd academaidd, busnes a rhanddeiliaid.

Ein nod ni yw creu cymdeithas iachach. I gyflawni hyn, mae eich dirnadaeth, eich mewnbwn a’ch gwybodaeth yn hanfodol.

Os ydych chi eisiau hyrwyddo gweithgarwch corfforol, datblygu sylfeini chwaraeon neu sicrhau’r iechyd gorau yn ystod oes, byddwn yn gweithio gyda chi i helpu i roi sylw i’r cwestiynau rydych chi wedi'u nodi.

Rydyn ni yma i drosi ymchwil yn ymarfer, i ddod â gwybodaeth a phrofiad amrywiol at ei gilydd, ac i greu dirnadaeth sy'n trawsnewid iechyd a lles ein poblogaeth. Byddwn yn helpu i ddod o hyd i'r atebion os ydynt ar gael, neu'n gweithio gyda chi i ddatblygu'r dull gorau o’u darganfod.

Themâu Strategol

Mae ein gwaith wedi'i strwythuro ar draws chwe thema strategol. Y rhain yw:

  • Iechyd a Lles y Meddwl
  • Newid Ymddygiad
  • Ffyrdd o Fyw Iach
  • Symud er lles Iechyd
  • Newid ar Lefel Poblogaeth
  • Economeg Iechyd, Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Sut i gymryd rhan 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trafod sut gallwch chi gymryd rhan a gweithio gyda ni, llenwch ein ffurflen mynegi diddordeb [javascript protected email address] neu e-bostio [javascript protected email address] gyda’ch ymholiad a’ch manylion cyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi yn fuan. Rydym yn awyddus i glywed gan bob math o sefydliadau ledled Cymru.

Rhagor o Wybodaeth 

Gwefan WIPAHS

Adroddiad Blynyddol WIPAHS 2019/2020

Dilyn WIPAHS ar Twitter

Cysylltu â WIPAHS ar LinkedIn 

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy