Pa grantiau a chyllid sydd ar gael i glybiau chwaraeon cymunedol a grwpiau dielw?
Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig dau gyfle ariannu:
1. Cronfa Cymru Actif. Mae hwn yn grant o rhwng £300 a £50,000 i'ch helpu i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i'ch helpu i gadw pobl i gymryd rhan yn eich clwb neu weithgaredd i'r dyfodol.
2. Crowdfunder. Mae hwn yn gyfle i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer gwelliannau rydych chi am eu gwneud yn eich clwb neu weithgaredd nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â chael pobl i chwarae neu gymryd rhan.
A yw Cronfa Cymru Actif yn cynnwys 'diogelu' a 'chynnydd' o hyd?
Nac ydy. Nawr bod cyfyngiadau Covid wedi'u dileu rydym wedi tynnu’r dewisiadau hyn i'w gwneud yn haws i ymgeiswyr. O hyn ymlaen, dim ond un cais fydd ar gael am Gronfa Cymru Actif, a fydd yn cynnwys popeth rydyn ni'n ei gefnogi.
Mewn argyfwng – mae'r stormydd diweddar yn un enghraifft – byddwn yn ychwanegu cefnogaeth ychwanegol i glybiau.
A fydd Crowdfunder yn parhau?
Bydd. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau â'i bartneriaeth â Crowdfunder.
Mae'r prosiect peilot wedi arwain at ganlyniadau calonogol iawn. Yn yr un modd ag y canfu Sport England fwy o ymgysylltu â'r gymuned a mwy o arian yn dod i mewn i chwaraeon.
Hyd yn hyn drwy'r gronfa, codwyd £124,210 ychwanegol ar gyfer prosiectau cymunedol ar ben y £66,500 o gyllid y mae Chwaraeon Cymru wedi'i ddarparu. Mae hyn yn golygu, am bob £1 y mae Chwaraeon Cymru yn ei rhoi, bod clybiau yng Nghymru yn sicrhau £1.86 yn ychwanegol. Hefyd, mae dros 1,300 o unigolion hyd yma wedi rhoi arian i brosiect Crowdfunder Chwaraeon Cymru, gan dyfu'r ymwybyddiaeth a'r gefnogaeth i'n cyllid, ond yn bwysicach fyth helpu i sicrhau bod clybiau'n ymgysylltu go iawn â'u cymunedau.
A fydd y Grantiau Cist Gymunedol a Datblygu yn dychwelyd?
Na fydd. Cronfa Cymru Actif a Crowdfunder yw'r ddau gyfle ariannu sydd ar gael drwy Chwaraeon Cymru. Gellir cael gafael ar eitemau a ariannwyd gan y grantiau blaenorol hynny – megis costau hyfforddi , offer i gyfranogwyr newydd, datblygu cyfleusterau, cynnal a chadw meysydd chwarae ac ati – drwy Gronfa Cymru Actif a Crowdfunder. Mae'r ddwy gronfa hyn hyd yn oed yn mynd ymhellach ac yn cefnogi eitemau na fyddem wedi'u hariannu o'r blaen – fel cymwysterau hyfforddi lefel 2 sydd bellach yn gallu cael eu hariannu gan Gronfa Cymru Actif.
Sut y gallwch helpu?
Gallwch ein helpu drwy hysbysebu ein grantiau a chyllid yn uniongyrchol i'ch cynulleidfa gan ddefnyddio ein pecyn adnoddau isod. Rydym yn gofyn i chi ein helpu i gyrraedd ac ymgysylltu â’r clybiau sy’n llai tebygol o fod wedi clywed am ein cyllid trwy ddulliau cyfathrebu traddodiadol gan Chwaraeon Cymru.
Mae casgliad o asedau wedi’i greu i’ch helpu i hyrwyddo’r cronfeydd, gan gynnwys:
- Templed e-bost
- Troedyn e-bost
- Graffeg cyfryngau cymdeithasol