Skip to main content

Chwilio am Gyfleuster?

Mae llawer i’w ystyried pan rydych chi’n chwilio am gyfleuster. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ddarpariaeth addas ar gyfer eich clwb, dyma 12 pwynt y dylech eu hystyried cyn rhoi eich llofnod ar y llinell:

  1. Gofyn i ysgolion, eglwysi, canolfannau cymunedol lleol oes posib i chi logi gofod? Neu ofyn i’r cyngor lleol am gaeau chwarae neu barciau? Efallai y bydd prifysgolion, colegau neu glybiau cymunedol mwy’n gallu helpu hefyd.
  2. Os ydych chi’n chwilio am bencadlys tu ôl i’r llenni, mae Bas Data Eiddo Llywodraeth Cymruyn darparu gwybodaeth am swyddfeydd, gofod diwydiannol neu warws a thir masnachol.
  3. Ydi’r cyfleuster y maint iawn? Cofiwch, mae manylion yn cael eu hargymell ar gyfer gwahanol chwaraeon a grwpiau oedran. Mae’n werth holi eich Corff Rheoli Cenedlaethol!
  4. Faint gewch chi ei wario? Bydd rhaid i chi greu digon o incwm i dalu’r gost – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn realistig!
  5. Lleoliad, lleoliad, lleoliad – ydych chi’n rhy agos at glwb arall sy’n darparu’r un cyfleoedd? Ydi hi’n hawdd cyrraedd y lleoliad ar droed, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car?
  6. A yw’n addas ac yn hygyrch i bobl anabl? A oes cyfleusterau newid ar wahân i ddynion a merched? Gall ystafelloedd newid i deuluoedd ei gwneud yn haws i deuluoedd ifanc ddod i’ch clwb. Ydych chi angen ystyried ystafell weddïo? Gwnewch yn siŵr bod y cyfleuster yn diwallu anghenion eich aelodau a darpar aelodau.
  7. Oes ganddo le diogel ar gyfer storio offer?
  8. Oes gennych chi yswiriant digonol? Weithiau mae aelodaeth o Gorff Rheoli Cenedlaethol yn cynnwys hyn, ond rhaid i chi holi bob amser.
  9. Edrychwch ar y telerau defnydd. Oes raid i chi gynnal a chadw’r lleoliad?
  10. Ydi’r brydles yn briodol ac yn deg?
  11. A yw’n syniad da holi cynghorwyr proffesiynol er mwyn gallu adfer cymaint o TAW â phosib?
  12. Os ydych chi’n chwilio am rywle i’w reoli, a yw’r cyfleuster ar gael i’w logi allan i grwpiau cymunedol ar gyfer partïon, cyfarfodydd, cynadleddau neu briodasau?