Skip to main content

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Ni fyddai’r rhan fwyaf o glybiau’n gallu gweithredu heb wirfoddolwyr. Felly, mae’n syniad da iawn gwneud yn siŵr bod eich gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u cefnogi. Un ffordd o wneud hyn yw drwy benodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr.                 


Beth yw Cydlynydd Gwirfoddolwyr?

Mae’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig mewn gwneud yn siŵr bod diwylliant gwirfoddoli cadarn yn bodoli mewn clybiau. Ei ffocws yw sicrhau bod pawb sy’n gwirfoddoli yn y clwb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu datblygu a’u cefnogi a bod ganddynt hyder a gwybodaeth i gyflawni eu rôl hyd eithaf eu gallu.                  .

Hefyd bydd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn arwain ar recriwtio gwirfoddolwyr i gyflawni tasgau newydd neu dasgau presennol yn y clwb.             


Beth yw’r manteision o gael Cydlynydd Gwirfoddolwyr?

Drwy gael rhywun sydd â rôl benodol yn gofalu am wirfoddolwyr eich clwb, rydych yn gwneud datganiad pendant bod eich clwb yn gwerthfawrogi ei wirfoddolwyr. Gall hyn wneud byd o wahaniaeth, nid yn unig pan rydych eisiau recriwtio aelodau newydd, ond hefyd i ddal gafael ar eich gwirfoddolwyr presennol.

Yn ddelfrydol, ni fydd gan y Cydlynydd Gwirfoddolwyr unrhyw rôl arall yn y clwb, oherwydd gobeithio y bydd hyn yn rhoi amser iddo ddod i adnabod pawb sy’n rhan o’r clwb, a dod i wybod pa gefnogaeth fyddent yn hoffi ei chael. 

Byddem yn hoffi gweld sefyllfa lle nad oes raid i bobl wneud mwy nag un rôl yn ein clybiau ni, gyda’r bobl iawn yn y swyddi iawn. Penodi Cydlynydd Gwirfoddolwyr yw’r cam cyntaf at gyflawni hyn.

Dyma 3 gwelliant ddylai clybiau eu gweld:

Sgiliau pobl yn cael eu cyfateb i dasgau priodol

Y cyfathrebu gyda’r gwirfoddolwyr yn gwella

Y clwb yn cynllunio ymlaen i weld pa rôl mae ei hangen i gyrraedd ei nodau