Skip to main content

Denu Gwirfoddolwyr

Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn chwaraeon ar lawr gwlad. Maen nhw’n rhoi o’u hamser i feithrin ysbryd cymunedol, rhannu doethineb a gwneud clybiau chwaraeon yn bosib. 

Er hynny, rydyn ni’n ymwybodol iawn bod bywydau pobl yn brysurach erbyn hyn ac mae denu gwirfoddolwyr i’ch clwb chwaraeon yn gallu bod yn anos nag o’r blaen.

Sut i Greu Diwylliant Gwirfoddoli

Yn ogystal â chadw at yr egwyddorion, ceir nifer o gamau gweithredu y gallwch eu rhoi ar waith i helpu i ysbrydoli gwirfoddolwyr. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: 


Pennu Disgwyliadau

Nodi’r disgwyliadau gwirfoddoli bob tro mae aelod newydd yn ymuno â’r clwb. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn barod i helpu, dim ond eu bod yn gwybod beth sydd raid iddyn nhw ei wneud, pryd ac am faint o amser.


Bod yn Bositif

Rydyn ni’n arwain o’r top, felly rhaid i’r rhai sy’n arwain osod y naws briodol drwy gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan mewn ffordd bositif, ac annog eraill. Nid yw ceisio codi cywilydd ar bobl er mwyn eu cael i wirfoddoli’n creu’r math priodol o ddiwylliant.       


Gofyn

Os oes gennych chi dasgau neu bethau angen eu gwneud, peidiwch â bod ag ofn gofyn am help. Mae’n well gwneud hyn wyneb yn wyneb, ond hefyd defnyddiwch wefan eich clwb neu ei dudalen ar Facebook.


Sgiliau

Holwch pa sgiliau penodol sydd gan eich aelodau neu eich rhieni a chadwch gofnod. Wrth i dasgau godi, gallwch ddewis y person addas ar gyfer y gwaith wedyn.

 

Bod yn Hyblyg

Efallai na fydd rhai pobl eisiau cael rôl fawr yn y clwb oherwydd bydd angen llawer o amser ac ymdrech ar gyfer hynny. Felly, meddyliwch am rannu swyddi mwy neu lunio rota i rannu’r baich. 


Hyfforddiant

Gall y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, fel Cymorth Cyntaf neu hyfforddi, gymell pobl i gymryd rhan. Felly ewch ati i hybu ac annog cyfleoedd hyfforddi.


Gwerthfawrogi

Mae ‘diolch yn fawr’ syml neu guro cefn rhywun yn cyfrif llawer. Pan mae pobl yn rhoi help llaw, gwnewch yn siŵr eich bod yn diolch yn bersonol iddyn nhw, ac yn gyhoeddus, oherwydd gall hynny ysbrydoli eraill i gymryd rhan.