Skip to main content

Mae argraffiadau cyntaf wirioneddol yn bwysig ac mae hyn yn sicr yn wir pan fyddwch yn croesawu wynebau newydd i'ch clwb.

Un rheswm mae clybiau'n ei chael yn anodd cadw aelodau a gwirfoddolwyr yn dod yn ôl dro ar ôl tro oherwydd yw nad ydynt yn cael croeso iawn yn y lle cyntaf.

Ydych chi wedi meddwl am lunio pecyn croeso/llawlfr clwb ar gyfer eich aelodau newydd a chyfredol? Peidiwch â gadael i'r enw eich drysu, nid yw'n rhaid i hyn fod yn lyfr mawr trwm hen ffasiwn wedi'i rwymo!

Bydd pecyn croeso/llawlyfr clwb yn nodi diwylliant eich clwb, y ffordd y gwnewch bethau a'r disgwyliadau ar bob aelod yn ogystal â rhifau cyswllt defnyddiol.  Yn ogystal â dangos y caiff eich clwb ei reoli'n dda a'i fod yn broffesiynol, bydd hefyd yn cyfleu eich bod yn awyddus i wneud ymdrech gyda phob aelod, newydd a phresennol.

Gall y math yma o wybodaeth fynd yn rhwydd ar eich gwefan, eich tudalen Facebook neu hyd yn oed hysbysfwrdd!

 Lawrlwythwch ein templed syml sydd yn cynnwys popeth rydych angen i greu Pecyn Croeso i'ch clwb.

Mae Clubmark yn awgrymu eich bod yn cynnwys rhai o'r dilynol yn eich Pecyn/Llawlyfr Croeso:

  • Croeso personol gan Gadeirydd y Clwb
  • Ffurflen gais am aelodaeth (os nad ydynt wedi ymuno'n barod)
  • Gwybodaeth am y Clwb:
    • Hanes
    • Nodau ac amcanion
    • Polisïau a gweithdrefnau'r Clwb
    • Gwybodaeth am Clubmark
  • Llawlyfr Clwb (blynyddol/tymor)
    • Manylion sesiynau hyfforddiant
    • Gwybodaeth cyswllt
    • Croeso'r tymor gan gapteiniaid/ rheolwyr tîm
    • Gwybodaeth timau
    • Dyddiaau gemau
    • Categorïau a ffioedd aelodaeth
    • Codau ymddygiad (chwaraewyr, rhieni/gwarcheidwaid, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr)
    • Calendr digwyddiadau cymdeithasol
  • Canllaw pwy yw pwy i'r clwb (gyda gwybodaeth gyswllt bwysig - dylid rhoi sylw penodol i'r Swyddog Llesiant)
  • Gwybodaeth ar sut y gallant helpu yn y clwb (e.e. rolau gwirfoddol allweddol sydd eu hangen bryd hynny.

 

Gall fod yn eithaf byr a syml - felly peidiwch poeni am restru popeth a awgrymir yma. Dim ond canllaw yw hyn i rai o'r pethau y gallech fod yn meddwl amdanynt.