Skip to main content

Diogelu Data

Nid dim ond iechyd a diogelwch ac yswiriant sy’n bwysig wrth reoli risgiau. Mae’n ymwneud â diogelu data hefyd.

Mae gan eich clwb gyfrifoldeb i warchod unrhyw wybodaeth bersonol sydd ganddo. Mae’r ddeddfwriaeth diogelu data’n cynnwys pawb y mae data personol yn cael eu cadw amdanynt. Mae hyn yn cynnwys cyflogeion, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chyllidwyr.

Beth Sydd Arnoch Angen Ei Wybod Am y Newidiadau i Ddiogelu Data 

Os yw eich clwb neu eich cymdeithas chwaraeon yn cadw data personol (h.y. gwybodaeth sy’n galluogi adnabod unigolyn byw) am nifer o unigolion, gan gynnwys cyflogeion, aelodau, gwirfoddolwyr, athletwyr, hyfforddwyr ac eraill, rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (‘GDPR’).

Mae’r GDPR wedi cael ei ddisgrifio gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel rhywbeth sy’n “newid y gêm i bawb” a bydd rhaid i bob clwb a chymdeithas chwaraeon newid y ffordd maen nhw’n meddwl am ddata personol. Daw i rym ar 25ain Mai 2018 a bydd rhaid i sefydliadau ddefnyddio’r amser sy’n arwain at hynny’n ddoeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth erbyn y dyddiad cau hwnnw.           

Os yw eich sefydliad yn aelod o’i Gorff Rheoli Cenedlaethol, dylech gysylltu ag ef gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch bodloni gofynion y GDPR.

Os nad ydych yn aelod o Gorff Rheoli Cenedlaethol, gallwch gysylltu â Chymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) ar [javascript protected email address] i weld a oes unrhyw gefnogaeth ar gael i chi ganddynt hwy.

Hefyd mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wybodaeth ar eu gwefan am y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, sydd ar gael yma.

Diolch i'r Sport and Recreational Alliance, medrwch ddefnyddio eu canllaw digidol i'ch helpu trwy newidiadau cymhleth y GDPR. Ynddo, cewch hyd i templedi, polisiau a chyngor sy'n berthnasol i chi.