Skip to main content

Grant Diogelu

Rydyn ni eisiau diogelu clybiau a sefydliadau cymunedol sy’n wynebu risg ariannol ar unwaith ac sydd angen cefnogaeth.

Gall ymgeiswyr sydd angen cyllid brys oherwydd nad yw eu camp yn gallu dychwelyd i weithgarwch wneud cais am gyllid Diogelu, ar yr amod nad ydynt wedi defnyddio'r gronfa yn ystod y tri mis blaenorol. Gall ymgeisydd wneud cais i dalu costau am hyd at 3 mis o'u dyddiad cyflwyno (neu ddyddio'n ôl ddim pellach na 19eg Rhagfyr). Rydym wedi penderfynu cadw'r gronfa ar agor am gyfnod amhenodol mewn ymateb i'r heriau a wynebir yn ystod y pandemig, ac felly nid oes gan y gronfa hon ddyddiad cau ar hyn o bryd.

Isafswm y grant yw £300, a’r uchafswm y byddwch yn gallu gwneud cais amdano yw £5,000. 

Pwysig: Mae’r Grant Diogelu yn gallu cefnogi clybiau a gweithgareddau gyda’u hymateb i ddifrod a achoswyd gan y stormydd diweddar yng Nghymru.

PWY FYDDWN YN EU CYLLIDO

Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol. 

Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • Clybiau chwaraeon nid-er-elw lleol. os oes arnoch chi angen esboniad am y diffiniad o ‘nid-er-elw’ a statws eich clwb, eich sefydliad neu eich grŵp, cysylltwch â’ch corff rheoli neu â Chwaraeon Cymru ar cymruactif@chwaraeon.cymru.
  • Sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu neu’n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau chwaraeon yn unig neu’n bennaf ac sydd â rôl bwysig i’w chwarae mewn cadw pobl yn actif, sydd angen cefnogaeth efallai er mwyn i rannau eraill eu sefydliad barhau ar agor.
  • Ymddiriedolaethau elusennol bychain nad ydynt yn gymwys am gymorth ariannol o unrhyw ffynhonnell arall.
  • Cyrff rhanbarthol sy’n wynebu risg o galedi ariannol.

Beth Fyddwn Yn Ei Gyllido 

Mae’r gronfa wedi cael ei datblygu i helpu sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol sy’n methu cyflawni eu rhwymedigaethau ariannol. Er enghraifft, ar gyfer costau sefydlog, nad ydynt yn cael eu cefnogi gan refeniw mwyach, oherwydd y coronafeirws. 

Gall hyn gynnwys gwariant ar y canlynol:

  • Rhent
  • Costau cyfleustodau
  • Yswiriant
  • Llogi cyfleusterau neu offer (os oes cost sefydlog)
  • Gweithgareddau neu gostau na all ffynonellau cyllid y llywodraeth dalu amdanynt

Byddem yn disgwyl i’r ymgeiswyr fod wedi ceisio am ffynonellau eraill o gyllid, yn enwedig y ffynonellau brys o gyllid a chefnogaeth sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.   

Ni all ymgeiswyr sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wneud cais eto am help i dalu am y costau hyn y maent wedi derbyn cyllid ar eu cyfer eisoes. 

Pwy Na Allwn Eu Cyllido 

Mae Cronfa Cymru Actif wedi’i chreu i helpu darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu cefnogi’r sefydliadau canlynol gyda’r gronfa yma:

  • Awdurdodau lleol, gan gynnwys cynghorau tref a phlwyf
  • Ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • Darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol masnachol, e.e. campfeydd preifat
  • Gweithredwyr hamdden
  • Unigolion sydd naill ai’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
  • Ni fydd Cronfa Cymru Actif yn cefnogi sefydliadau/clybiau cysylltiedig â sefydliadau addysgol. Er enghraifft, timau prifysgol neu uwchraddio cyfleusterau addysg.

Dylai unrhyw sefydliad neu unigolyn sy’n gallu cael cefnogaeth drwy becynnau ariannol y llywodraethwneud cais am hynny i ddechrau.      

Beth Na Allaf Ymgeisio ar ei Gyfer?

Ni fydd Cronfa Cymru Actif yn talu am y canlynol:

  • Costau sy’n gallu cael eu talu drwy ffynonellau cyllido eraill y Llywodraeth, fel Ffyrlo.
  • Gwaith cyfalaf mawr y tu allan i’r mesurau sy’n ofynnol er mwyn Paratoi ar gyfer ailddechrau. Mae Cronfa Cymru Actif yn canolbwyntio ar ddelio â’r heriau o ganlyniad i gyfyngiadau symud a chyfarwyddyd y Coronafeirws.

Astudiaethau Achos

Brickfield Rangers: Cyllid argyfwng yn helpu i warchod clwb cymunedol mawr

Fe wnaeth Robbie Savage dorri ei ddannedd – ond nid ei wallt – yn chwarae i Brickfield Rangers a nawr,…

Darllen Mwy

Cyllid argyfwng yn helpu Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd i gael cae y gallant fod yn falch ohono

Gallai Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd fod ag un o’r arwynebau chwarae gorau yn y byd rygbi yng Nghymru…

Darllen Mwy

Dragon Karate Cymru yn sicrhau bod chwaraeon ar gael i bob gallu yn ystod y cyfyngiadau symud

Nid yw addysgu carate yn ystod pandemig byd-eang yn hawdd, ond nid yw hynny wedi atal Reuben Florence…

Darllen Mwy

Rhestr Wirio 

Rydych chi’n barod i ddechrau eich cais bron. Erbyn hyn byddwch wedi gwneud y canlynol:

  • Darllen drwy’r wybodaeth am Gronfa Cymru Actif.
  • Astudio’r Ganolfan Cymorth fel eich bod yn gwybod beth sydd arnoch ei angen i wneud cais.
  • Ymweld ag Atebion Clwb am yr help a’r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i’ch clwb neu eich sefydliad.

Os oes gennych chi gwestiwn neu ymholiad o hyd am Gronfa Cymru Actif neu eich cais, cysylltwch â ni ar [javascript protected email address] 

Sylwer: Os ydych chi’n glwb neu sefydliad pêl droed, bydd rhaid i chi lenwi Arolwg Effaith COVID-19 yr FAW cyn gwneud cais i Gronfa Cymru Actif. Bydd yr wybodaeth yn yr arolwg yn galluogi’r FAW i ddeall effaith COVID-19 ar eich clwb ac adolygu eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol er mwyn asesu a fyddai cais drwy Gronfa Cymru Actif yn briodol. Cysylltwch â - Daniel Delahay [javascript protected email address] am fwy o wybodaeth.