Rydym yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol data a gwybodaeth i fonitro a sbarduno cynnydd yn ystod cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Rydym yn casglu amrywiaeth eang o ddata cadarn ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys gweithlu (ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig), cyfraddau cyfranogiad, galw a buddsoddiadau. Rydym hefyd yn gweithio'n rheolaidd gyda'r byd academaidd ar brosiectau ymchwil penodol sy'n ein cynorthwyo i ystyried agweddau croestoriadol ar anghydraddoldeb.
Bydd Chwaraeon Cymru yn cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol yn ei adroddiad Dyletswydd Cydraddoldeb Cyhoeddus blynyddol:
- Diweddariad ar gynnydd yn erbyn amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
 - Data am amrywiaeth y staff
 - Data am amrywiaeth aelodau'r Bwrdd
 - Monitro amrywiaeth recriwtio
 - Data am amrywiaeth y staff sy’n dechrau o’r newydd / gadael
 - Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
 - Bwlch cyflog yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig eraill (lle bo hynny'n ystadegol bosibl)
 - Cwynion, Anfodlonrwydd, Disgyblu
 - Gwybodaeth am hyfforddiant
 - Data cyfranogiad (gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol Cymru a'r Arolwg Chwaraeon Ysgol)
 - Buddsoddiadau wedi'u dadansoddi ar draws meysydd blaenoriaeth
 
Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn chwarae rhan allweddol wrth fonitro a herio cynnydd drwy gydol cyfnod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Asesiad Effaith Integredig
Mae Chwaraeon Cymru yn defnyddio adnodd Asesiad Effaith Integredig i ddeall effaith bosibl newidiadau arfaethedig i bolisi neu arferion. Mae hon fel arfer yn ddogfen gydweithredol ac ailadroddus sydd â’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a’n dyletswyddau cyhoeddus ehangach. Mae’r adnodd yn galluogi Chwaraeon Cymru i ddatblygu camau lliniaru os caiff unrhyw effaith negyddol ei nodi neu i nodi cyfleoedd i ystyried sut gellir gwella unrhyw effaith gadarnhaol ymhellach.