Skip to main content

Manylion yn ôl Cefndir Economaidd-gymdeithasol

Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol. Mae’r holl ffigurau wedi cael eu talgrynnu. 

Yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol, defnyddir chwarteli Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd) fel mesur o gefndir economaidd-gymdeithasol. Mae cyfran yr hawlwyr PYADd o bob ysgol yn cael ei chyfrif ac mae'r ysgolion yn cael eu rhannu yn bedwar grŵp cyfartal yn seiliedig ar yr ystod hon o hawlwyr, gyda PYADd1 y lleiaf, a PYADd4 y mwyaf difreintiedig.

Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.

Cenedl Actif 

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon, gan edrych ar amledd, lleoliad a chyfranogiad penodol i chwaraeon. 

  • Mae gwahaniaeth o 15% rhwng y disgyblion lleiaf difreintiedig (PYADd1) a'r disgyblion mwyaf difreintiedig (PYADd4) o ran cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38).

Graff 1: Amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl chwartel Prydau Ysgol Am Ddim. 

Siart bar yn dangos amledd y cymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm, yn ôl chwartel Prydau Ysgol Am Ddim. Mae’r siart yn dangos bod disgyblion PYADd4 yn fwy tebygol o beidio â gwneud unrhyw weithgarwch aml, tra bo disgyblion PYADd1 yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos

 

  • Mae'r rhai lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol na'r rhai mwyaf difreintiedig. O blith y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, mae 73% o ddisgyblion PYADd1 yn cymryd rhan mewn clwb cymunedol, o gymharu â 55% o ddisgyblion PYADd4.
  • Ar draws yr holl chwarteli PYADd, y tair prif gamp y mae disgyblion yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a rygbi.

 

Pawb 

Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. 

  • Yng Nghanolbarth y De, mae 48% o ddisgyblion PYADd1 yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 32% o ddisgyblion PYADd4.
  • Yng Nghanolbarth Cymru, mae 47% o ddisgyblion PYADd1 yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 27% o ddisgyblion PYADd4.
  • Yng Ngorllewin Cymru, mae 50% o ddisgyblion PYADd1 yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o ddisgyblion PYADd4.
  • Yng Ngwent, mae 42% o ddisgyblion PYADd1 a PYADd2 (cyfun) yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion PYADd3 a PYADd4 (cyfun).
  • Yng Ngogledd Cymru, mae 42% o ddisgyblion PYADd1 a PYADd2 (cyfun) yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion PYADd3 a PYADd4 (cyfun).

 

TROEDNODYN: Oherwydd y nifer isel o ymatebion ar lefel prydau ysgol am ddim mewn rhai awdurdodau lleol, rhaid cyfuno'r chwarteli prydau ysgol am ddim wrth ddadansoddi ar gyfer Gwent a Gogledd Cymru.

Gydol Oes

Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw am chwaraeon, a’r elfennau sy’n galluogi gwneud mwy o chwaraeon. 

  • Mae disgyblion yn PYADd4 yn fwy tebygol o fod â galw heb ei fodloni am chwaraeon na disgyblion yn PYADd3, PYADd2 a PYADd1
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ymhlith disgyblion PYADd1 yw nofio, beicio a phêl fasged.
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ymhlith disgyblion PYADd2 yw nofio, beicio a phêl fasged.
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ymhlith disgyblion PYADd3 yw nofio, pêl fasged a beicio.
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ymhlith disgyblion PYADd4 yw pêl fasged, nofio a phêl droed.
  • Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd ar draws yr holl chwarteli PYADd yw ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon sy’n gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’, a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’.

 

TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond sydd â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Mwynhad 

Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ogystal â hyder y disgyblion. 

  • Mae disgylion yn PYADd4 yn fwy tebygol o fwynhau AG ‘yn fawr’, fodd bynnag, mae disgyblion yn PYADd1 yn fwy tebygol o fwynhau chwaraeon allgyrsiol a champ mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’.

Tabl 1: Mwynhau chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl chwartel Prydau Ysgol Am Ddim 

 Mwynhau AG ‘yn fawr’               Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’         Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ 
PYADd157%42%53%
PYADd257%40%50%
PYADd355%38%44%
PYADd461%38%39%
  • Gofynnwyd i’r disgyblion pa mor hyderus oeddent yn teimlo am roi cynnig ar chwaraeon newydd. Dywedodd 28% yn PYADd1, 28% yn PYADd2, 26% yn PYADd3 a 30% yn PYADd4 eu bod yn ‘hyderus iawn’.