Skip to main content

Dadansoddiad yn ôl y defnydd o’r Gymraeg

Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl defnydd o’r Gymraeg, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol. Rydym yn diffinio disgyblion sy'n siarad Cymraeg fel y rhai sy'n nodi eu bod yn gallu siarad yn rhugl yn y Gymraeg, neu'n gallu sgwrsio'n hyderus neu'n syml yn y Gymraeg.

Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.

Cenedl Actif 

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad yn ôl amledd, lleoliad a chwaraeon, yn ogystal â gwirfoddoli. 

  • Mae disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol na disgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg o gymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38). Mae 46% o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg.
  • Mae disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol na disgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg o gymryd rhan mewn chwaraeon mewn lleoliad clwb allgyrsiol a chymunedol unwaith yr wythnos o leiaf.
  • Y tair prif gamp y mae disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn cymryd rhan ynddynt unwaith yr wythnos o leiaf mewn clwb cymunedol yw pêl droed, nofio a rygbi.
  • Mae disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o wirfoddoli neu helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned na disgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg. Mae 28% o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned, o gymharu â 21% o ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg.

 

Pawb

Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar y cyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. 

Tabl 1: Canran y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl defnydd o’r Gymraeg ac ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

 Siaradwyr CymraegDi-Gymraeg
Canolbarth y De47%36%
Canolbarth Cymru46%33%
Gorllewin Cymru50%35%
Gwent45%34%
Gogledd Cymru44%34%

 

Gydol Oes

Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw a'r cymhellion / galluogwyr i wneud mwy o chwaraeon.

  • Mae gan 50% o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg alw heb ei fodloni am chwaraeon. 
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ar gyfer disgyblion sy’n siarad Cymraeg yw nofio, beicio a phêl fasged.   
  • Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblionsy’n siarad Cymraeg oedd‘Pe bai gen i fwy o amser’, ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’ a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’.

 

TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond eto maent â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Mwynhad 

Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad a hyder. 

  • Mae disgyblion sy’n siarad Cymraeg yn mwynhau chwaraeon mewn gwersi AG ‘yn llawer’ mwy nag y maent mewn clybiau allgyrsiol neu gymunedol.

Tabl 2: Mwynhau chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl defnydd o’r Gymraeg     

 Mwynhau AG ‘yn fawr’               Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’         Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ 
Siaradwyr Cymraeg60%44%53%
Di-Gymraeg 56%36%42%
  • Ar draws pob lleoliad, mae disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o fwynhau chwaraeon na disgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg.
  • Mae disgyblion sy’n siarad Cymraeg yn fwy tebygol na disgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg o deimlo’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd. Mae 31% o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, o gymharu â 25% o ddisgyblion nad ydynt yn siarad Cymraeg.