Skip to main content

Dadansoddiad yn ôl Rhywedd

Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl rhywedd, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol.

Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.

Cenedl Actif 

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad yn ôl amledd, lleoliad a chwaraeon, yn ogystal â gwirfoddoli. 

  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o gymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol 38). Mae 43% o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 36% o ferched a 28% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’. 
  • Mae merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn cymryd llai o ran na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos. 
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o gymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol unwaith yr wythnos o leiaf. Mae 41% o fechgyn, 39% o ferched, a 27% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol unwaith yr wythnos o leiaf. 
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o gymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol y tu allan i’r ysgol unwaith yr wythnos o leiaf. Mae 58% o fechgyn, 54% o ferched a 42% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol y tu allan i’r ysgol unwaith yr wythnos o leiaf.
  • Mae merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn cymryd llai o ran na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran cyfranogiad mewn chwaraeon allgyrsiol a chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf.
  • Y tair prif gamp y mae bechgyn yn cymryd rhan ynddynt unwaith yr wythnos o leiaf mewn clwb cymunedol yw pêl droed, rygbi a nofio.
  • Y tair prif gamp y mae merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn cymryd rhan ynddynt unwaith yr wythnos o leiaf mewn clwb cymunedol yw nofio, dawns a phêl droed.     
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o wirfoddoli i helpu gyda champ yn yr ysgol neu yn eu cymuned. Mae 25% o fechgyn, 22% o ferched a 18% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn gwirfoddoli i helpu gyda champ yn yr ysgol neu yn eu cymuned.

 

Pawb 

Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar y cyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. 

Tabl 1: Canran y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl rhywedd ac ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

 Canran y bechgyn sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos Canran y merched sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos Canran y disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos
Canolbarth y De43%37%33%
Canolbarth Cymru44%38%-
Gorllewin Cymru46%39%29%
Gwent42%34%29%
Gogledd Cymru43%36%23%
  • Mae llai na 30 o ymatebion yn ataliedig

 

Gydol Oes

Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw a'r cymhellion / galluogwyr i wneud mwy o chwaraeon.

  • Mae gan 52% o fechgyn, 59% o ferched a 65% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ alw heb ei fodloni am chwaraeon. 
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith bechgyn yw pêl droed, pêl fasged a beicio. 
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith merched yw nofio, trampolinio a beicio.       
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yw saethyddiaeth, nofio a thrampolinio. 
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o feddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach. Mae 56% o fechgyn yn meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach o gymharu â 48% o ferched a 30% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’.
  • Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd ar draws pob rhywedd oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’.

 

TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond eto maent â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Mwynhad 

Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad, hyder a llais y disgyblion.

  • Mae bechgyn yn mwynhau AG / chwaraeon ‘yn fawr’ ar draws pob lleoliad yn fwy na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’.
  • O blith y tri lleoliad, mae bechgyn a merched yn mwynhau AG fwyaf, ac mae disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ yn mwynhau chwaraeon mewn clwb cymunedol fwyaf. 

Tabl 2: Mwynhau chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl rhywedd.

 Mwynhau AG ‘yn fawr’               Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’         Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ 
Bechgyn   67%45%52%
Merched49%35%43%
Disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’26%22%31%
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o deimlo ‘yn hyderus iawn’ i roi cynnig ar chwaraeon newydd. Mae 34% o fechgyn, o gymharu â 21% o ferched ac 16% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’, yn teimlo ‘yn hyderus iawn’ i roi cynnig ar chwaraeon newydd.
  • Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched a disgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’ o deimlo bod pobl yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol ‘bob amser’. Mae 18% o fechgyn, o gymharu â 13% o ferched a 6% o ddisgyblion sy’n uniaethu fel ‘Arall’, yn teimlo bod pobl yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol ‘bob amser’.