Skip to main content

Lansio cronfa gwerth £4m i achub ac ailadeiladu chwaraeon cymunedol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Lansio cronfa gwerth £4m i achub ac ailadeiladu chwaraeon cymunedol

Mae cronfa newydd gwerth £4m wedi cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad. 

Bydd y gronfa newydd, ‘Cronfa Cymru Actif’, yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i warchod clybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan bandemig Covid-19 a’u helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithgareddau yn ddiogel.

Mae’r arian grant wedi bod yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf y byd chwaraeon yng Nghymru.          

Yn ystod y deufis diwethaf, mae mwy na £600k o gyllid argyfwng wedi cael ei ddyfarnu eisoes ganChwaraeon Cymru i helpu mwy na 300 o glybiau oedd mewn perygl ariannol ar unwaith. 

Nawr, diolch i Gronfa Cymru Actif, gall mwy fyth o glybiau ddiogelu eu dyfodol drwy wneud cais am grant sydd rhwng £300 a £50,000.
  
Efallai y bydd clybiau a sefydliadau chwaraeon ar lawr gwlad sy’n wynebu risg o ddod i ben oherwydd argyfwng Covid-19 angen cyllid i helpu gyda thalu rhent, costau cyfleustodau, yswiriant neu unrhyw gostau sefydlog sydd ganddynt ar gyfer llogi cyfleusterau neu offer. 

Mae rhai chwaraeon, fel golff a thennis, wedi ailddechrau eu gweithgareddau gan gadw at ganllawiau diogelwch sydd wedi’u cyhoeddi gan eu Cyrff Rheoli Cenedlaethol, ac mae eraill fel pêl droed a rygbi yn aros am y golau gwyrdd i ailddechrau. Bydd clybiau a sefydliadau cymunedol yn gallu gwneud cais i Gronfa Cymru Actif i’w helpu i wneud unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gweithgareddau’n ddiogel.


Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru Sarah Powell: “Mae chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael eu taro’n eithriadol galed. Diolch i’r drefn, mae mwy na hanner miliwn o bunnoedd o gyllid argyfwng eisoes wedi achub nifer enfawr o glybiau ac rydyn ni’n falch iawn o allu lansio’r gronfa newydd hon a fydd yn darparu mwy fyth o gefnogaeth ar amser pan mae ei wir angen. 

“Mae ein clybiau a’n grwpiau ni’n hanfodol i gadw pobl Cymru yn actif. Heb ddal eu tir, neu os na fydd posib iddyn nhw ailagor yn ddiogel, fe allwn ni ddisgwyl argyfwng arall – sef anweithgarwch a salwch pobl. ’Allwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd. Bydd rhaid i glybiau addasu llawer o’u gweithgareddau er mwyn cadw yn llawn at y canllawiau iechyd a’r gofynion cadw pellter cymdeithasol. Bydd Cronfa Cymru Actif yn helpu i wneud hynny’n bosib.”

Ychwanegodd Sarah: “Er ei bod yn galonogol gweld y pwysigrwydd hanfodol mae’r Llywodraeth yn ei roi i ymarfer yn ystod y pandemig yma, mae ymchwil wedi canfod bod llawer o’r anghydraddoldeb oedd yn bodoli eisoes o ran cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ehangu yn ystod y cyfyngiadau symud yn anffodus, yn fwyaf nodedig ymhlith y rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. 

“Mae gostyngiad yn lefelau gweithgarwch pobl ifanc wedi creu pryder mawr, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio gyda’n partneriaid fel Cyrff Rheoli Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol i sicrhau bod Cronfa Cymru Actif yn cyrraedd y cymunedau a’r grwpiau hynny sydd ei hangen fwyaf. Mae hwn yn gyfle ar y cyd i adnewyddu ac ailddychmygu beth all a sut bydd chwaraeon yn gorfod bod yn y dyfodol.”

Mae ein clybiau a’n grwpiau ni’n hanfodol i gadw pobl Cymru yn actif. Heb ddal eu tir, neu os na fydd posib iddyn nhw ailagor yn ddiogel, fe allwn ni ddisgwyl argyfwng arall – sef anweithgarwch a salwch pobl. ’Allwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd. 
Sarah Powell - Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru

Er mwyn i weithgareddau allu ailddechrau gan gadw pellter cymdeithasol a chadw at unrhyw ragofalon angenrheidiol, efallai y bydd angen cefnogaeth ariannol i ddarparu cymhareb uwch o hyfforddwyr / gwirfoddolwyr i gyfranogwyr. Hefyd efallai y bydd costau cynyddol gan fod clybiau angen llogi gofod mwy ar gyfer cynnal gweithgareddau yn ddiogel. Efallai y bydd eraill, yn y cyfamser, angen cymorth ariannol i’w helpu i addasu eu cyfleusterau er mwyn gweithredu systemau un ffordd, er enghraifft.

Mae sefydliadau dirifedi ledled Cymru wedi dangos eu gallu i symud gyda’r oes yn ystod y cyfyngiadau symud drwy groesawu technoleg ddigidol i gysylltu â’u haelodau ar-lein. Efallai bod clybiau eisiau gwneud cais am gyllid i’w helpu i ehangu eu darpariaeth yn ddigidol, neu ddarparu platfformau archebu ar-lein.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas: “Wrth i fwy a mwy o weithgareddau ddychwelyd fesul cam, bydd y cyllid hwn yn chwarae rhan hanfodol mewn helpu i uno ein cymunedau ni unwaith eto drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Bydd ein clybiau a’n sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad yn chwarae rhan enfawr mewn gofalu am iechyd corfforol a meddyliol y genedl wrth i ni adfer o’r cyfnod yma. Wrth gwrs, wrth ddychwelyd at weithgarwch, bydd pethau’n edrych yn wahanol, a bydd angen camau bychain wrth i ni ddod yn ôl yn raddol at ryw fath o normalrwydd.”


Mae elusennau a sefydliadau, gan gynnwys clybiau chwaraeon, ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan effaith ddigynsail argyfwng Covid-19 yn cael mynediad i becyn cynhwysfawr o gefnogaeth o hyd at £600 miliwn o arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn cefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ac yn cynnwys sectorau’r celfyddydau, cymunedau, elusennau, treftadaeth, addysg, yr amgylchedd a chwaraeon. 

Gan dynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y sector chwaraeon, dywedodd John Rose, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae dosbarthwyr cyllid y Loteri Genedlaethol yng Nghymru’n eithriadol ymwybodol o’r effaith ddigynsail mae Covid-19 yn ei chael ar draws y cymunedau rydyn ni’n eu cefnogi. Rydyn ni wedi rhyfeddu at sut mae grwpiau cymunedol o bob math wedi tynnu at ei gilydd er mwyn helpu yn eu cymunedau.   

“Fel cyllidwyr, rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i gefnogi’r prosiectau rydyn ni’n eu cyllido ac i liniaru’r effeithiau cystal â phosib yn ystod y cyfnod anodd yma. Rydyn ni eisiau sicrhau ein cymunedau ni ein bod ni dal yma, yn dal i wneud dyfarniadau ac fe hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth barhaus, sy’n galluogi i ni sicrhau bod cyllid ar gael i bobl a chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig.”

Yn ogystal â lansio Cronfa Cymru Actif gwerth £4m, mae Chwaraeon Cymru wedi dyrannu hyd at £4.5m i ddarparu cronfa strategol i gefnogi partneriaid presennol fel Cyrff Rheoli Cenedlaethol (e.e. Undeb Rygbi Cymru, Athletau Cymru, Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Pêl Rwyd Cymru), Awdurdodau Lleol a sefydliadau partner cenedlaethol eraill (e.e. Yr Urdd, Street Games), yn ogystal ag Ymddiriedolaethau Hamdden nid-er-elw sy’n gweithredu llawer o ganolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon eraill ledled Cymru.

Mae gwybodaeth lawn am Gronfa Cymru Actif, gan gynnwys manylion am sut i ymgeisio, ar gael yn www.chwaraeon.cymru/cronfacymruactif Bydd ceisiadau yn agor am hanner dydd ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy