Skip to main content

£74,499 wedi’i ddyfarnu yn ail rownd y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £74,499 wedi’i ddyfarnu yn ail rownd y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

Mae bron i chwarter miliwn o bunnoedd wedi cael ei gymeradwyo yn awr i glybiau yng Nghymru mewn dim ond pythefnos ers sefydlu’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.

Mae cyfanswm o 36 o glybiau’n cael cyllid drwy gyfrwng yr ail griw o geisiadau cymeradwy yr wythnos hon. Mae wyth cais wedi cael eu gohirio wrth iddynt aros am fwy o wybodaeth neu gadarnhad o gyllid arall gan y Llywodraeth.         

Daw’r ail gyfres o grantiau wedi i £163,196 gael ei gymeradwyo i 68 o glybiau yn ystod y gyfres gyntaf o geisiadau. 

O blith yr ymgeiswyr sydd wedi’u cymeradwyo:     

  • Mae clybiau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cael cefnogaeth 
  • Mae cyllid yn cael ei roi i glybiau ar gyfer 22 o wahanol gampau     
  • Mae cefnogaeth i 9 chlwb i helpu gyda difrod sydd wedi’i achosi gan lifogydd y gaeaf 

Mae cyfanswm o 424 o geisiadau wedi’u derbyn gan Chwaraeon Cymru, gyda nwy na 200 yn parhau i gael eu prosesu gyda chefnogaeth partneriaid, fel cyrff rheoli.         

Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw sydd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith oherwydd effaith ariannol y Coronafeirws a’r llifogydd diweddar. 

Y dyfarniad mwyaf a roddir o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yw £5,000. Dylai’r clybiau a gymeradwyir ar gyfer cyllid dderbyn yr arian o fewn dyddiau. 

Mae’r amserlen o wneud cais i dderbyn penderfyniad yn 10 diwrnod gwaith ar hyn o bryd, oni bai fod angen rhagor o wybodaeth neu fod y clwb yn aros am gadarnhad o ffynonellau cyllido eraill. 

Mae’r rownd nesaf o benderfyniadau wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth (5ed Mai), gyda chlybiau’n cael gwybod am y penderfyniadau yn ystod y dyddiau canlynol. 

Mae gwybodaeth am y Gronfa, a’r meini prawf cymhwysedd, ar gael yma.     

Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i emergencyrelief@sport.wales

Hefyd edrychwch ar y diweddariad gwybodaeth am grantiau eraill Chwaraeon Cymru. 

Bydd diweddariadau pellach ar gael pan fydd y drydedd rownd o glybiau wedi cael gwybod am eu penderfyniadau.