Skip to main content

Cronfa Cymru Actif – Gwybodaeth ar gyfer mis Mawrth 2022

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cronfa Cymru Actif – Gwybodaeth ar gyfer mis Mawrth 2022

Dylai clybiau a grwpiau fod yn ymwybodol na fydd ceisiadau i Gronfa Cymru Actif a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2022 yn cael eu hystyried tan fis Ebrill 2022 (y flwyddyn ariannol newydd).

Os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn derbyn eich cyllid yn ein dyraniad blwyddyn ariannol 2022/2023 ac ni fyddwch yn gallu cael grant arall gan Gronfa Cymru Actif tan fis Ebrill 2023.

Dim ond un cais llwyddiannus y gall ymgeiswyr ei wneud mewn blwyddyn ariannol – rhwng Ebrill 1af a Mawrth 31ain.

Fodd bynnag, os caiff eich cais ei wrthod, byddwch yn gallu ailgyflwyno neu wneud cais newydd.

Yn gyffredinol, ein nod ni yw rhoi penderfyniad i chi am eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith i'w gyflwyno.

Mae gennyf gwestiwn am hyn, beth allaf ei wneud?

Mae ein tîm buddsoddiadau ar gael ar 0300 3003102 ar yr amseroedd canlynol: 

Llun - 10:00-12:30 a 1:15-16:00 

Mawrth - 10:00-12:30 a 1:15-16:00 

Mercher - 10:00-12:30 a 1:15-16:00 

Iau - 10:00-12:30 a 1:15-16:00 

Gwener – Ar Gau 

Sadwrn - Ar Gau 

Sul - Ar Gau 

Gallwch hefyd e-bostio [javascript protected email address]Bydd eich ymholiad yn cael ei gofnodi, byddwch yn cael cyfeirnod a bydd aelod o'n tîm yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Newyddion Diweddaraf - Grantiau a Chyllid

Cronfa gwerth £5 miliwn yn cael effaith am y tro cyntaf

Fe hawliodd Cymru'n gwbl briodol ei bod wedi defnyddio Profion pêl rwyd yr haf fel carreg gamu at lwyddiant…

Darllen Mwy

Wedi'u datgelu: Y 118 o glybiau chwaraeon ar lawr gwlad a fydd yn rhannu mwy nag £1 miliwn

Mae cronfa newydd i helpu i roi hwb i gyfleusterau chwaraeon cymunedol yng Nghymru wedi dyrannu dros…

Darllen Mwy

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru…

Darllen Mwy