Mae Chwaraeon Cymru yn darparu cyllid newydd i helpu clybiau chwaraeon i arbed arian drwy ddod yn fwy ynni effeithlon.
Gall clybiau wneud cais am Grant Arbed Ynni newydd o hyd at £25,000 y gellir eu defnyddio tuag at gost mesurau arbed ynni fel gosod paneli solar neu inswleiddio gwell yn eu lle.
Bydd y clybiau sy’n llwyddiannus gyda’u ceisiadau nid yn unig yn elwa ar filiau cyfleustodau is fel eu bod yn gallu dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, ond byddant hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd.
Wrth esbonio’r Grant Arbed Ynni newydd ymhellach, dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni eisiau helpu i gefnogi clybiau cynaliadwy, cadarn fel eu bod yn gallu parhau i fod o fudd i’r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu drwy ddarparu gweithgareddau fforddiadwy.
“Mae clybiau chwaraeon sy’n gweithredu eiddo yn parhau i deimlo effeithiau’r argyfwng costau byw, felly rydyn ni'n falch iawn o allu cefnogi eu syniadau ar gyfer lleihau eu defnydd o ynni a allai arbed symiau sylweddol o arian iddyn nhw yn y tymor byr a’r tymor hir.”
Yn ogystal ag ariannu paneli solar ac inswleiddio, mae posib defnyddio'r grantiau newydd hefyd ar gyfer gosod goleuadau a synwyryddion symudiad LED ynni effeithlon yn eu lle, gwella systemau gwresogi a dŵr poeth, yn ogystal â ffynonellau dŵr cynaliadwy.
Bydd oedran a defnydd adeilad yn penderfynu ar yr arbedion posibl. Po hynaf yw adeilad, po fwyaf o siawns sydd o wneud arbedion ynni a fydd yn arwain at arbedion sylweddol.
Yn yr un modd, mae clwb neu bafiliwn sydd ar agor ac yn defnyddio nwy a thrydan bob dydd o'r wythnos yn naturiol yn mynd i fod â mwy o botensial ar gyfer effeithlonrwydd ynni na chyfleuster sy'n cael ei ddefnyddio unwaith neu ddwy o weithiau'r wythnos yn unig.
Ychwanegodd Brian: “Mae gennym ni gyfanswm o £1m o arian ar gyfer y grantiau yma ac rydyn ni'n hyderus y bydd yr elw ar fuddsoddiad sawl gwaith yn fwy na hynny o ran arbedion ariannol i glybiau.”
I wneud cais, mae angen i glybiau lenwi ffurflen gais cam 1 rhwng dydd Mawrth 16 Mai a dydd Mercher 28 Mehefin 2023. Gwneir hyn ar-lein drwy wefan Chwaraeon Cymru ac, yn bwysig iawn, cewch eich arwain yn llawn drwy’r broses ar y wefan.
Yn hollbwysig hefyd, mae’n rhaid i glybiau sy’n gwneud cais am y cyllid naill ai fod yn berchen ar eu hadeilad neu fod â les 10 mlynedd o leiaf. Bydd disgwyl iddynt gyfrannu o leiaf 20% hefyd tuag at gyfanswm costau eu prosiect.
Dysgwch am y ffyrdd eraill y gall Chwaraeon Cymru ddarparu cyllid i'ch clwb ar y dudalen cyllid a chefnogaeth.