Skip to main content

Gwnewch y pethau bychain ar gyfer chwaraeon ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwnewch y pethau bychain ar gyfer chwaraeon ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni

Yma yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni bob amser yn edrych ymlaen at Ddydd Gŵyl Dewi. Ac i’ch helpu chi i fynd i ysbryd y diwrnod, rydyn ni wedi llunio rhestr o weithgareddau y gallwch chi eu gwneud i ddathlu popeth Cymreig.

Mae ein rhestr ni wedi cael ei hysbrydoli gan gyngor Dewi Sant ei hun. Ei ddywediad enwocaf yw “Gwnewch y pethau bychain”. 

Cyfrannu eich hen git neu offer     

Os oes gennych chi hen git neu offer nad ydych chi’n eu defnyddio mwyach, beth am helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’u rhoi i rywun arall? Wedi tyfu allan o'ch esgidiau pêl droed? Raced tennis yn hel llwch? Wedi symud ymlaen o offer iau? Gwnewch y pethau bychain a hysbysebwch unrhyw git neu offer diangen ar dudalen Facebook eich clwb lleol. Neu eu cyfrannu at Lord’s Taverners a fydd yn sicrhau eu bod yn helpu rhywun yn y DU neu dramor.

Gwahodd ffrind i ymuno â chi

Weithiau, mae angen ychydig o hwb i annog rhywun i roi cynnig ar gamp newydd neu i wneud rhywfaint o ymarfer corff. Felly, ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, beth am wahodd ffrind i ymuno â chi yn eich clwb chwaraeon lleol neu awgrymu trip i’ch pwll nofio agosaf neu fynd i redeg gyda’ch gilydd? Mae gwneud gweithgarwch corfforol yn helpu i gael ein endorffinau i lifo – sef cemegau teimlo'n dda yr ymennydd. Mae'n ein helpu ni i deimlo'n hapusach, yn fwy hamddenol ac yn llai pryderus. O gynnwys cwmni da, efallai y byddwch yn gwneud ffafr fawr â ffrind.

Defnyddio’r Gymraeg yn eich hyfforddiant

Ychwanegwch dipyn o hwyl at eich hyfforddiant a defnyddio ychydig o Gymraeg! Does dim rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl i siarad ychydig o Gymraeg. Dyma rai geiriau ac ymadroddion syml i chi roi cynnig arnyn nhw…

  • Dal ati – Keep at it
  • Da iawn – Very good
  • Ymlaen – come on!
  • Am gôl! – What a goal!
  • Llongyfarchiadau – Congratulations! 
  • Cais - Try
  • Tacl – Tackle
  • Pasio gwych – great pass
  • Diolch – Thank you

Eisiau mynd gam ymhellach? Cofrestrwch gyda learnwelsh.cymru – mae cyrsiau am ddim ar gael hyd yn oed! Gwych!

Dweud diolch wrth hyfforddwr neu wirfoddolwr

Mae gair bach o ddiolch yn mynd yn bell iawn! Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, beth am roi amser i ddweud diolch wrth eich hyfforddwyr a’ch gwirfoddolwyr. Dywedwch wrthyn nhw pam rydych chi'n eu gwerthfawrogi nhw neu gadewch i weithredoedd ddweud mwy na geiriau, a thorchwch eich llewys. Cyrhaeddwch yn gynnar a chynnig help llaw. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rhai sy’n gwneud i chwaraeon ar lawr gwlad ddigwydd yng Nghymru.

Cennin pedr o dan awyr borffor

Chwilio am gennin Pedr

Mae gennym ni ddigonedd o ddewis yng Nghymru ar gyfer teithiau cerdded hardd a does dim un amser mwy pleserus o’r flwyddyn na phan fydd y cennin Pedr yn eu gogoniant. Ewch i’ch parc agosaf i weld ein blodyn cenedlaethol yn ei flodau neu i un o nifer o lefydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Os yw’n well gennych chi fynd oddi ar y grid, fe allech chi ddewis un o lwybrau cerdded gorau Cymru i fwynhau ysblander y wlad hardd yma. 

Ymarfer i gyfeiliant cerddoriaeth Gymraeg 

Am bwyntiau Dydd Gŵyl Dewi ychwanegol, chwiliwch am restrau chwarae o gerddoriaeth Gymraeg. O Adwaith i Yma O Hyd a phopeth yn y canol, beth am gael artistiaid Cymreig i fod yn drac sain i’ch chwaraeon chi.

Cefnogi prosiectau chwaraeon lleol

Os ydych chi’n fusnes Cymreig, ydych chi wedi meddwl am noddi prosiectau chwaraeon lleol ar lawr gwlad? Mae clybiau ar hyd a lled Cymru yn chwilio am help llaw.

Hefyd, fel busnes, efallai y byddwch chi eisiau cyfrannu gwobrau i helpu clwb lleol sy’n mynd ati i drefnu cyllido torfol i uwchraddio ei gyfleusterau. Rydych chi’n cael cyfle i godi ymwybyddiaeth o’ch busnes a hefyd yn cefnogi clwb cymunedol lleol i helpu pobl leol i fod yn fwy actif – mae pawb ar eu hennill! Edrychwch ar y prosiectau Crowdfunder byw ledled Cymru i gael gwybod mwy.

Hedfan y ddraig

Estynnwch am eich hetiau bwced a’ch crysau cochion oherwydd dim ots pa gamp rydych chi’n ei chwarae neu sut rydych chi’n mynd ati i ymarfer, byddwch yn falch eich bod chi’n Gymro neu’n Gymraes. Efallai ein bod ni'n genedl fechan, ond rydyn ni'n bwerus iawn!

Rhowch wybod i ni os byddwch yn penderfynu dilyn unrhyw un o'n hawgrymiadau. Fe fyddem wrth ein bodd yn clywed am hynny. Cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter.

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy