Er bod y cyfyngiadau symud wedi gohirio chwaraeon ar lawr gwlad eto, mae cannoedd o glybiau ledled Cymru’n brysur yn paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i Covid-19 drwy wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.
Mae llu o geisiadau ers troad y flwyddyn wedi gweld y cyfanswm sydd wedi’i ddyfarnu’n mynd heibio'r marc £2m. Mae mwy nag 800 o glybiau wedi cael eu cefnogi gan y gronfa hyd yma, ac mae mwy o arian ar gael o hyd.
Mae clybiau'n dal i ddefnyddio'r gronfa i'w helpu i oroesi'r pandemig, yn enwedig gyda'r cyfyngiadau symud presennol yn dod â gweithgareddau i stop dros dro, ond mae nifer cynyddol o glybiau’n manteisio ar y cyfle i wneud cais i ffrwd 'Cynnydd' Cronfa Cymru Actif fel eu bod yn gallu cynnig cyfleoedd chwaraeon gwell fyth yn y dyfodol.
Gall clybiau wneud cais am grantiau rhwng £300 a £50,000 a dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: "Er bod rhaid i ni i gyd fod yn amyneddgar am y tro, ac aros nes ei bod yn ddiogel i chwaraeon ailddechrau, mae'n amser gwych i glybiau ddechrau meddwl am yr amseroedd mwy positif sydd ar y gorwel, yn enwedig gyda'r rhaglen frechu ar y gweill.
"Gall chwaraeon chwarae rhan bwysig iawn mewn helpu Cymru i wella o'r pandemig, felly mae'n gyffrous gweld y ffordd mae clybiau'n adnabod cyfleoedd i wella eu darpariaeth, dod â'u cymunedau at ei gilydd, a rhoi gwên yn ôl ar wynebau pobl.
"Fodd bynnag, nid dim ond edrych ar beth allant ei wneud i wella'r profiad i'w haelodau presennol mae clybiau. Maen nhw hefyd yn ystyried sut gallant gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac mae hynny'n gwbl hanfodol.
"Mae rhai grwpiau penodol, fel plant a phobl hŷn, sy'n debygol o fod wedi cael eu taro galetaf gan y cyfyngiadau symud diweddaraf yma o ran faint o ymarfer corff maen nhw wedi gallu ei wneud heb eu cyfleoedd strwythuredig arferol. Mae her barhaus hefyd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb oedd yn bodoli eisoes o ran cyfranogiad mewn chwaraeon ymhlith merched a genethod, lleiafrifoedd ethnig, a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.
"Rydyn ni eisiau gweithio gyda chlybiau i fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru’n cael y cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i helpu gyda hyn, felly byddwn yn annog pob clwb a sefydliad chwaraeon sy'n darparu chwaraeon i ystyried sut gallent ddefnyddio'r cyllid i greu cenedl fwy actif ar ôl Covid."