Skip to main content

Megan Wynne – y llwybr at adferiad ar ôl anaf difrifol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Megan Wynne – y llwybr at adferiad ar ôl anaf difrifol

Mae Megan Wynne yn cael ei hysbrydoli gan Jess Fishlock wrth iddi deithio ar hyd y llwybr hir at adferiad ar ôl rhwygo ligamentau ei phen-glin.

Nod seren Merched Dinas Bryste yn y pen draw yw cynrychioli Cymru yn yr Ewros yn 2022, gyda Fishlock wrth ei hochr. 

Mae Megan wedi bod yn creu cynnwrf yn Uwch Gynghrair y Merched dros y Robins – yn ystod tymor ar fenthyg o Tottenham Hotspur – ond wedyn dioddefodd anaf ym mis Awst, fis yn unig ar ôl newid clwb yn barhaol. 

Yn fuan ar ôl dychwelyd i hyfforddi yn dilyn cyfyngiadau symud Covid-19, cafodd y ferch 27 oed wybod na fyddai’n gallu chwarae am naw mis ar ôl niweidio ei ligament croesffurf blaen.             

Er ei bod yn cydnabod bod rhai dyddiau tywyll o’i blaen o hyd, mae Megan yn pwyntio tuag at y chwaraewraig sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau’n chwarae dros Gymru, Fishlock, fel esiampl o gadernid yn wyneb adfyd.               

Instagram - @meganrosewynne

Insight and Research - Learning Resources

CORONI HYFFORDDWR BOCSIO CAERDYDD YN ‘ARWR Y CYFNOD CLO’ YNG NGWOBRAU LOTERI GENEDLAETHOL 2020

Mae gŵr o Gaerdydd a drawsnewidiodd ei fywyd trwy focsio wedi cael ei goroni’n ‘arwr y cyfnod clo’ yng…

Darllen Mwy

Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi chwaraeon yng Nghymru

Mae Brian Davies, y Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru, wedi canmol cyfraniad arian y…

Darllen Mwy

Polisi Pryderon a Chwynion Chwaraeon Cymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych chi…

Darllen Mwy

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy