Skip to main content

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Mae'n Wythnos Hinsawdd yng Nghymru! Y cyfle perffaith i dynnu sylw at yr hyn y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a’r rôl y gall pawb sy’n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru ei chwarae.

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

Sut mae chwaraeon yn effeithio ar y blaned?

Rydyn ni i gyd wedi teimlo effaith newid hinsawdd ar chwaraeon yng Nghymru gyda gemau a digwyddiadau’n cael eu canslo neu eu gohirio oherwydd llifogydd neu wres eithafol. Ond sut mae chwaraeon yn cyfrannu at y broblem hinsawdd?

Efallai nad ydi chwaraeon yn dod i’ch meddwl chi pan fyddwch yn meddwl am allyriadau a llygredd ond, credwch neu beidio, mae ei ôl troed carbon byd-eang yn cyfateb i un gwlad o faint canolig, gan gyfrannu at amcangyfrif o 0.8% o allyriadau byd-eang yn ôl y Rapid Transition Alliance. Dau o’r prif gyfranwyr at y broblem o fewn y byd chwaraeon yw defnydd o ynni a theithio (cyfranogwyr a gwylwyr.)

Sut mae Chwaraeon Cymru yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd?

Mae wedi dod yn flaenoriaeth gan Chwaraeon Cymru i leihau ein hôl troed carbon ein hunain a hefyd cefnogi ac annog clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill yn y sector i wneud newidiadau cynaliadwy eu hunain.

Dyma rai o'r camau sy'n cael eu cymryd...

Grant Arbed Ynni

Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, roeddem yn gallu cynnig cyfle i glybiau chwaraeon wneud cais am ein Grant Arbed Ynni yn gynharach eleni. Gallai clybiau chwaraeon wneud cais am grant o hyd at £25,000 y gellid ei ddefnyddio tuag at gost mesurau arbed ynni fel gosod paneli solar neu inswleiddio gwell yn eu lle.

Bydd y rhai sy’n llwyddiannus gyda’u ceisiadau nid yn unig yn elwa o filiau cyfleustodau is fel eu bod yn gallu dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, ond hefyd byddant yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi manylion y clybiau sydd wedi derbyn cyllid.

Cyllid Cyfalaf

Nid clybiau cymunedol yw’r unig rai i dderbyn buddsoddiad gwyrdd gan Chwaraeon Cymru. Mae rhywfaint o’n cyllid cyfalaf ni ar gyfer 2023/24, sy’n cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru, wedi mynd tuag at gyllido cynaliadwyedd ynni mewn canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon. Mae paneli solar a ffaniau dosbarthu gwres yn rhai o’r atebion gwyrdd a fydd yn cael eu gosod mewn gwahanol gyfleusterau hamdden ledled Cymru i leihau eu biliau cyfleustodau a’u gwneud yn fwy amgylcheddol gyfeillgar hefyd. Byddwn yn cyhoeddi manylion llawn y prosiectau hyn yn fuan.

Ceir Cronfa Trydan

Hwyl fawr danwyddau ffosil a helo ynni gwyrdd! Mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi mewn fflyd o geir cronfa trydan, gan leihau ein hallyriadau pan mae angen i ni wneud siwrneiau. Gall ein staff yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ddefnyddio’r cerbydau hyn yn ddiogel gan wybod eu bod yn gwneud siwrneiau gwyrddach.

Car Hyundai Kona glas y tu allan i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd
Un o'n ceir trydan

Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Ym mis Chwefror, lansiwyd ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Garbon. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfeiriad i ni ar ein taith cynaliadwyedd, yn mapio ein llwybr i sero net ac yn sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd lle gall chwaraeon barhau i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Adnoddau ar gyfer clybiau chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru, fel rhan o’r Sport Environment and Climate Coalition (SECC), wedi helpu i ddatblygu Hwb Adnoddau SECC ar gyfer clybiau a sefydliadau chwaraeon yng Nghymru.

Ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg, mae’n cynnwys fideos, erthyglau a chanllawiau i gefnogi clybiau mewn chwaraeon sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ac ymgysylltu â materion cynaliadwyedd.

Beth all fy nghlwb neu sefydliad chwaraeon ei wneud i helpu?

Mae Hwb Adnoddau SECC yn lle gwych i ddechrau ymchwilio a chynllunio sut gallwch chi ddechrau ar eich siwrnai cynaliadwyedd neu fynd â'ch effaith i'r lefel nesaf.

Dydi pethau ddim bob amser yn hawdd pan rydych chi’n mentro ar eich pen eich hun ond mae llawer o rai eraill yng Nghymru yn dechrau ar yr un siwrnai tuag at sero net. Estynnwch allan at sefydliadau lleol, cydweithio ar eich gwaith cynaliadwyedd a rhannu gwybodaeth. Peidiwch â phoeni os nad oes ganddyn nhw unrhyw beth i'w wneud â chwaraeon - mae elusennau, cyrff cyhoeddus a busnesau ledled y wlad sydd â'r un nodau newid hinsawdd.

Gallwch hefyd ddarllen ein cyngor doeth ar sut i ddod yn glwb chwaraeon cynaliadwy a dysgu ble mae’r llefydd gorau i ailgylchu cit chwaraeon eich clwb.