Skip to main content

Sesiwn Gloywi Google Analytics 4

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfathrebu a Digidol
  4. Sesiwn Gloywi Google Analytics 4

Mae ychydig fisoedd wedi mynd heibio ers i ni eich cyflwyno chi i Google Analytics 4 (GA4) ond nawr mae'n amser am sesiwn gloywi i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y gorau o'r adnodd mesur am ddim.

Os gwnaethoch chi golli ein sesiwn cyntaf ni neu os ydych chi'n newydd i GA4, peidiwch â phoeni! Bydd y sesiwn CLIP yma gyda WebAdept yn rhoi'r hyder sydd arnoch ei angen i fynd i'r afael â data eich gwefan a deall ymddygiad eich defnyddwyr. Mae'r adnodd am ddim yma’n darparu dirnadaeth a fydd yn eich helpu chi i wneud penderfyniadau sy'n cael eu sbarduno gan ddata a gwneud y gorau o'ch cynnwys ar gyfer llwyddiant - beth sy'n gweithio ar y wefan a lle gallech chi wella.

Eisiau i WebAdept edrych ar faes penodol o fewn GA4? Oes gennych chi broblem rydych chi eisiau iddyn nhw edrych arni? Rhowch wybod i ni beth rydych chi eisiau iddyn nhw ei gynnwys yn y Mesurydd Menti yma a chofrestrwch i sicrhau eich lle am ddim.

Gallwch chi hefyd weld ein sesiwn CLIP “Cyflwyniad i Google Analytics 4” yma.

Am y sesiwn yma

Bydd y sesiwn gloywi yma’n edrych ar ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio GA4 i wneud penderfyniadau i wella eich perfformiad.

Bydd y sesiwn yma’n cynnwys:

  • Sefydlu Cyfrif GA4
  • Deall Rhyngwyneb GA4
  • Olrhain Digwyddiadau
  • Creu Adroddiadau a Dangosfyrddau
  • Dadansoddi Data a Dirnadaeth

Am y cyflwynydd           

Wedi’i leoli yn Nhyddewi a Chaerdydd, mae’r arbenigwyr dylunio a datblygu gwefannau, WebAdept, wedi bod yn helpu busnesau gyda’u llwyddiant digidol ers 1997.

Mae eich cyflwynydd Alix yn arbenigwr marchnata digidol sydd â mwy na 10 mlynedd o brofiad. Mae hi'n helpu busnesau i gael yr hyn sydd arnynt ei angen o blatfformau, fel GA4, ond mae hi’n fwy angerddol fyth am hyfforddi pobl i'w helpu i ddod â'r sgiliau marchnata digidol hyn yn fewnol.