Yn dilyn ein digwyddiad CLIP, ‘Cyflwyniad i Google Analytics (GA4)’ a oedd yn dangos sut i ddefnyddio dealltwriaeth o ddata i wneud y gorau o berfformiad gwefan, rydyn ni wedi llunio canllaw deall jargon. Gall hyn eich helpu chi i ymgyfarwyddo ag amrywiaeth o dermau a metrigau newydd a allai fod ychydig yn ddryslyd ar y dechrau.
Defnyddiwr
Defnyddiwr yw rhywun sy'n ymweld â'ch gwefan chi ac yn rhyngweithio â hi.
Digwyddiad
Gelwir unrhyw ryngweithio neu ymgysylltu, os yw'n ymweliad â thudalen neu'n glic ar ddolen, yn ddigwyddiad bellach.
Digwyddiad trosi
Pan fyddwch chi eisiau mesur digwyddiad penodol, fel ymweliadau â thudalen benodol neu glic ar ddolen, gallwch ofyn i GA4 ei fesur. Bob tro y bydd defnyddiwr yn sbarduno'r digwyddiad, mae GA4 yn ei gofnodi fel trosiad y gallwch gasglu adroddiadau arno. Gall hyn eich helpu chi i lunio cynnwys gwe yn y dyfodol.
Sesiwn
Pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'ch gwefan chi, mae hyn yn dechrau sesiwn. Gallai hyn fod yn ymweliadau ag un dudalen neu gynnwys ychydig o ddigwyddiadau gwahanol, fel llywio ar draws gwahanol dudalennau. Mae sesiwn yn dod i ben pan fydd defnyddiwr yn gadael y wefan neu'n anweithgar am 30 eiliad.
Sesiwn Ymgysylltu
Mae sesiwn yn un 'ymgysylltu' os yw'n para mwy na 10 eiliad, yn cynnwys o leiaf dau ymweliad â thudalen neu os bydd digwyddiad trosi yn mynd rhagddo.
Cyfradd Ymgysylltu
Dyma ganran y sesiynau ar eich gwefan sy'n cael eu hystyried yn rhai ymgysylltu.
Cyfradd Bownsio
Dyma ganran y sesiynau ar eich gwefan nad ydynt yn rhai ymgysylltu. Yn y bôn, pan fydd defnyddiwr yn ymweld â'ch gwefan ac yn gadael heb gymryd unrhyw gamau.
Cyfradd Gadael
Dyma ganran y sesiynau a ddaeth i ben ar dudalen benodol. P'un ai a yw defnyddiwr wedi dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arno neu nad oes ganddo unman arall i lywio iddo, dyma'r dudalen sy'n gwneud i ddefnyddwyr benderfynu gadael eich gwefan.
Atgyfeiriad
Os yw defnyddiwr yn dod o hyd i'ch gwefan drwy ddolen arall, gelwir hyn yn atgyfeiriad. Gall hyn fod drwy barth gwe arall neu ddolen o'r cyfryngau cymdeithasol.
Chwiliad Organig
Os yw defnyddiwr yn dod o hyd i'ch gwefan drwy chwilio termau allweddol ar beiriant chwilio fel Google, dyma'r traffig a geir drwy chwiliad organig.
Dyma ganllaw Google ei hun ar SEO i'ch helpu i gaffael traffig drwy chwiliad organig.
Tudalen Lanio
Y dudalen gyntaf y mae defnyddiwr yn glanio arni pan fydd yn ymweld â'ch gwefan.
Dimensiwn Sylfaenol
Mae dimensiwn yn briodoledd defnyddiwr p'un ai a yw hynny'n golygu rhywedd, dyfais neu borwr. Dimensiwn sylfaenol yw'r maes diofyn y mae eich adroddiad wedi'i drefnu yn unol ag ef.
Gallwch grwpio eich defnyddwyr mewn dimensiynau i weld sut mae defnyddwyr gyda'r priodoledd penodol hwnnw'n rhyngweithio â'ch gwefan. Gallai hyn fod yn 'ffynhonnell/cyfrwng', fel atgyfeiriad neu chwiliad organig, neu'n 'ddinas', fel Caerdydd, Wrecsam a Thyddewi.
Er enghraifft, gallech weld pa dudalen sydd fwyaf poblogaidd gyda phobl o Wrecsam. Neu, gallwch weld ai menywod ynteu dynion sy’n treulio’r amser hiraf ar eich gwefan.
Dimensiwn Eilaidd
Gelwir ychwanegu priodoledd arall i'w fesur ochr yn ochr â'r dimensiwn sylfaenol yn ddimensiwn eilaidd. Mae hyn yn caniatáu i chi ychwanegu lefel ychwanegol o ddull adrodd i ymchwilio'n ddyfnach i ddata eich gwefan. Er enghraifft, os rhywedd yw'r dimensiwn sylfaenol ac oedran yw'r dimensiwn eilaidd, gallwch ddarganfod nifer y sesiynau ymgysylltu ar gyfer menywod rhwng 35 a 44.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ddimensiynau, darllenwch fwy yma.
Cadw
Dyma'r adroddiad ar ymddygiad defnyddwyr sy'n dychwelyd i'ch gwefan o fewn y 42 diwrnod cyntaf ar eich gwefan. Mae canran y defnyddwyr sy'n dychwelyd yn cael ei mesur o dan adroddiad cadw defnyddwyr. Mae hyn yn dangos pa mor dda y gall eich gwefan gadw defnyddwyr neu'n annog defnyddwyr i ddychwelyd.
Dysgwch yr holl wybodaeth y gall adroddiad cadw ei roi i chi.
Priodoliad
Dyma'r weithred o roi clod i wahanol bwyntiau cyffwrdd defnyddiwr ar ei lwybr trosi. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth i'r tudalennau a'r digwyddiadau eraill cyn i ddefnyddiwr gael ei drosi yn hytrach na rhoi'r holl glod i ymgysylltu diwethaf y defnyddiwr.
Ewch i Google i weld enghraifft ac esboniad sut mae modelau priodoli yn gweithio
Pwyntiau cyffwrdd
Dyma'r ffynonellau a'r ffactorau sydd wedi effeithio ar drosiad. Gall y rhain fod yn gliciau neu'n hysbysebion y mae defnyddiwr wedi ymgysylltu â nhw ar ei lwybr trosi. Rhoddir clod i'r rhain am helpu defnyddiwr i drosi y gallwch dderbyn adroddiadau arnynt, yn hytrach na rhoi’r holl glod i ddim ond y pwynt cyffwrdd terfynol.